CBAC Lefel A Astudiaethau Ffilm CBAC Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
2 flynedd
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau ffilm i'ch galluogi chi i benderfynu ble mae eich angerdd.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y pwnc
... Ydych eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm
... Ydych am gwrs astudio ymarferol a damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych am fynd ymlaen i addysg uwch, gweithio yn y diwydiant ffilm neu os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio nodweddion:
- Ffilmiau (yn cynnwys setiau, celfi, gwisgoedd, colur, gwaith camera, goleuo, golygu, sain, perfformio)
- Naratif, genre a chynrychioli
- Gwahanol lwyfannau gwylio ac ymatebion cynulleidfaoedd i ffilmiau
- Diwydiannau ffilm Hollywood a Phrydeinig
- Sinema'r byd
- Astudiaeth feirniadol ar ffilmiau
Mae'r cwrs Lefel UG yn cynnwys un cynhyrchiad ymarferol, gan eich caniatáu chi i greu sgript, bwrdd stori â ffotograffau, neu ffilm fer.
Mae'r cwrs Lefel U yn dilyn patrwm tebyg, gan eich caniatáu chi i greu cynhyrchiad ymarferol arall (sgript ffilm ar gyfer ffilm ffuglen, sgript ar gyfer rhaglen ddogfen neu ffilm fer) sy'n gysylltiedig â phrosiect ymchwil.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
PFAL0120Y1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr