Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn gosod sylfaen ar gyfer Gweithrediadau Ailorffen Cerbydau er mwyn rhoi cychwyn cadarn i chi yn y diwydiant.
... hoffech fynd i'r brifysgol, ond fe wnaethoch adael yr ysgol heb y cymwysterau sydd eu hangen arnoch.
... ydych eisiau paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol
... oes gennych ddiddordeb mawr mewn astudiaethau a gyrfaoedd cysylltiedig ag iechyd.
…os ydych chi’n dychwelyd i addysg neu mewn cyflogaeth ac yn dymuno uwchsgilio.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach sy'n gysylltiedig ag iechyd. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau megis rhai rheoli amser, gwaith tîm a chyfathrebu, ac yn datblygu sgiliau astudio ymchwiliol i'ch helpu gyda'ch astudiaethau yn y dyfodol.
Gallai amrywiaeth o unedau gynnwys y canlynol:
- Cyfathrebu
- Rhifedd
- Cymdeithaseg
- Gwyddoniaeth
- Astudiaethau Iechyd
- Seicoleg
- Anatomeg a Ffisioleg
Asesir hyn trwy Asesiadau Ffurfiol Mewnol. Byddwch yn cynnal ystod o feini prawf asesu trwy aseiniadau, arholiadau amser penodol mewnol, cyflwyniadau llafar, tasgau ymarferol a thraethawd estynedig. Byddwch yn cyflawni Diploma Agored Cymru Mynediad i AU – Gofal Iechyd, a fydd yn dal pwyntiau UCAS.
Mae Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Bydd gofyn i ddysgwyr sydd heb gymwysterau gael asesiadau rhifedd a llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf. Mae hwn yn gwrs dwys sy'n gofyn am lefel uchel o ymrwymiad ac ymroddiad. Bydd disgwyl i ymgeiswyr fynychu pob sesiwn ac ymgymryd ag astudio annibynnol sylweddol.
Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn rhinweddau hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae'n rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn ennill y cymhwyster.
Addysg Uwch mewn meysydd megis nyrsio, parafeddygaeth, hylenydd deintyddol, dietegydd, bydwreigiaeth a therapi lleferydd.
Mae Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Bydd gofyn i ddysgwyr sydd heb gymwysterau gael asesiadau rhifedd a llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf.