En

Iechyd, Llesiant ac Ysbrydolrwydd

Mae eich diogelwch a’ch llesiant yn bwysig iawn i ni yn y coleg. Felly byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y campws ac ar leoliadau gwaith, yn eich amddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod, bwlio ac aflonyddu, a byddwn yn darparu cymorth ichi gydag anawsterau personol. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau cwnsela a chaplaniaeth cyfrinachol a gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau allanol a all helpu. Os hoffech wybod mwy, siaradwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar eich campws.

Iechyd

Sioeau Hybu Iechyd Teithiol

Er mwyn eich helpu i aros yn iach, mae sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ymweld â’r campysau yn rheolaidd i gynnig samplau, cyngor a gwybodaeth ar faterion megis rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach, ffitrwydd ac ymarfer corff. Felly os ydych chi eisiau creu smwddi ar feic, profi eich pwysedd gwaed neu ddysgu mwy am therapïau cyfannol, cadwch lygad allan am fanylion pan fyddwch chi’n cofrestru.

Bwyta’n Iach

Pa un ai a ydych chi eisoes yn bwyta’n iach neu’n dymuno gwybod sut i wella eich deiet, gall y tîm sy’n rhedeg gwasanaeth arlwyo ein campysau – Charter & Co – helpu. Yn ogystal â lluniaeth poeth ac oer, mae eu bwydlenni bob amser yn cynnwys opsiynau iach ac mae eu Canllaw i Fyfyrwyr yn cynnwys awgrymiadau ar sut i fabwysiadu ffordd iach o fyw yn y coleg.

Llesiant

Cwnsela

Yn hytrach na dweud wrthych beth i’w wneud, mae ein cwnselwyr yno i’ch helpu a’ch cefnogi i wneud eich penderfyniadau eich hun yn gwbl gyfrinachol – oni bai eich bod yn codi pryder am ddiogelu, y mae’n rhaid i’ch cwnselydd ei adrodd i arweinydd diogelu’r campws.

Cymorth Iechyd Meddw

Togetherall yw ein cymuned ar-lein am ddim ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, gyda mynediad 24/7 at arbenigwyr wedi’u hyfforddi, arbenigedd clinigol a chefnogaeth gan gyfoedion mewn amgylchedd ar-lein diogel. Mae’n anelu at wella llesiant meddyliol mewn ffordd gynhwysol sy’n rhydd o feirniadaeth drwy gynnig lle diogel i siarad, rhannu profiadau a chefnogi eraill. Mae Togetherall yn eich helpu i reoli cyflyrau iechyd meddwl, cymryd rheolaeth, teimlo’n well a chynnal llesiant meddyliol cadarnhaol yn ystod eich amser yn y coleg. Darganfyddwch fwy yma.

Cefnogaeth LGBTQ+

Rydym yn codi ymwybyddiaeth ar draws y coleg ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant fel cynghreiriaid i’r gymuned LGBTQ+. Gall ein tîm cymorth hefyd gynnig mentora a chymorth i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grŵp diddordeb arbennig ar gyfer y gymuned LGBTQ+.

Ysbrydolrwydd

Caplaniaeth

Os ydych angen cymorth bugeiliol gyda phrofedigaeth, pryder, hunaniaeth neu argyfwng ffydd (unrhyw ffydd), gall ein cydlynydd caplaniaeth a chynhwysiant eich helpu.

Tîm ffydd ac ysbrydolrwydd

Pa un ai a ydych eisiau dysgu mwy am grefyddau’r byd, cael help gyda myfyrdod neu weddïo neu eisiau cymorth ar adegau o argyfwng neu angen ysbrydol, mae ein tîm Ysbrydoliaeth yno i’ch helpu.

Byddant yn eich helpu i ddeall eich ffydd eich hun, neu ffydd pobl eraill, ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar bynciau megis cydraddoldeb, amrywiaeth, troseddau casineb a mwy. Mae’r tîm hefyd yn cynnig mentora a chymorth i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grwpiau diddordeb arbennig ar gyfer ffydd benodol.

Ystafelloedd gweddi a chyfleusterau ymolchi

Mae yna ystafelloedd gweddïo ar bob campws, ac mae gan Gasnewydd gyfleusterau ymolchi Wudu ar gael i ddysgwyr a staff Moslemaidd fel rhan o’u defod weddïo