Gwyddoniaeth

Archwilio'r byd gwyddoniaeth a gweld lle all fynd â chi
Oes gennych ddiddordeb yn nyfodol meddygaeth, technoleg, neu’r amgylchedd? Ydych chi’n chwilfrydig am sut mae pethau’n gweithio?
Bydd ein cyrsiau Gwyddoniaeth Gymhwysol yn Coleg Gwent yn eich helpu i droi’r chwilfrydedd yn sgiliau go iawn - ac yn eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn gwyddoniaeth, ymchwil, neu ddiwydiant.
O fioleg a chemeg i wyddor fforensig a biodechnoleg, byddwch yn gweithio ar arbrofion ymarferol, yn defnyddio offer dadansoddol proffesiynol ac yn magu hyder i gymryd y cam nesaf - p’un a yw’n brifysgol neu’n syth i waith.
Cewch ddysgu mewn labordai proffesiynol, gyda chefnogaeth arbenigol
Byddwch yn hyfforddi yn ein labordai arbenigol, gan ddysgu am y technegau a’r offer a ddefnyddir mewn diwydiant ac ymchwil fodern. Gydag arweiniad gan diwtoriaid arbenigol, cewch sylfaen gadarn mewn gwyddoniaeth, a chewch archwilio’r pynciau sy’n tanio’ch diddordeb.
P’un a ydych yn dadansoddi samplau neu’n dysgu sut mae canfyddiadau gwyddonol yn datrys problemau’r byd go iawn, bydd eich amser yn y labordy yn ymarferol, a phob amser yn berthnasol.


Newydd i wyddoniaeth? Dim problem. Mae ein cyrsiau gwyddoniaeth lefel mynediad yn rhoi man cychwyn cadarn i chi - gan eich cyflwyno i fioleg, cemeg, ffiseg, a mwy. Byddwch yn datblygu gwybodaeth hanfodol ac yn meithrin sgiliau a fydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa yn y sector gwyddoniaeth.
Awyddus i fynd ymhellach? Mae ein cyrsiau Gwyddoniaeth Gymhwysol yn plymio’n ddyfnach i’r byd gwyddonol, gan eich helpu i ddeall sut mae gwyddoniaeth yn gweithio mewn bywyd pob dydd, meddygaeth, technoleg, a diwydiant. Byddwch yn gweithio ar arbrofion go iawn, yn archwilio’r datblygiadau diweddaraf, ac yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen i fynd ymlaen i addysg uwch neu rolau gwyddonol.

I ble y gall gwyddoniaeth fynd â chi?
P’un a ydych yn awyddus i weithio mewn ymchwil, gofal iechyd, neu dechnolegau sy’n datblygu, rydym yma i’ch helpu i gymryd y camau cywir ar eich taith.
Mae cymhwyster mewn gwyddoniaeth gymhwysol yn agor drysau i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys:
- Gwyddor iechyd a biofeddygol
- Cadwraeth a gwyddor yr amgylchedd
- Troseddeg a fforensig
- Gwaith labordy a’r diwydiant fferyllol
- Gwyddor bwyd, geneteg, a biodechnoleg
Oriel











Dechreuwch ar eich taith wyddoniaeth yn Coleg Gwent
Gyda chefnogaeth wych, labordai modern, a chwricwlwm wedi’i greu o amgylch gyrfaoedd a dilyniant, mae ein cyrsiau gwyddoniaeth yn rhoi’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn hyderus.
Edrychwch ar ein cyrsiau gwyddoniaeth llawn amser a rhan amser heddiw - a chymerwch eich cam cyntaf tuag at ddyfodol llawn darganfyddiadau.