Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth

Student at computer

Gall defnyddwyr ailosod a newid cyfrinair mewngofnodi eu cyfrif coleg yn ddiogel eu hunain.

Golyga hyn nad oes rhaid i chi ddibynnu mwyach ar y tîm TGCh i’w newid i chi; gallwch ei wneud eich hun o unrhyw le ac ar unrhyw adeg drwy borth Microsoft diogel. Nid yw’n orfodol i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, ond rydym yn eich annog i’w ddefnyddio.

Er mwyn gallu ailosod eich cyfrinair, rhaid i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eich cyfeiriad e-bost personol a/neu rif ffôn symudol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel ar y cwmwl Microsoft. Dim ond at y diben o ailosod eich cyfrinair y defnyddir yr wybodaeth a gallwch ddewis optio allan o’r gwasanaeth ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r tîm TGCh. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n unol ag amserlen cadw cofnodion y Coleg.

Cyn i chi ddechrau byddwch angen mynediad at y canlynol:

  • cyfrif e-bost personol – rhaid iddo fod yn wahanol i’ch cyfeiriad e-bost Coleg Gwent
  • mynediad at ffôn symudol

 

Sut i gofrestru

 

Sut i ailosod eich cyfrinair

Unwaith y byddwch wedi ailosod eich cyfrinair, cofiwch y bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion mewn mannau eraill e.e. CG Connect, eduroam ayyb.