Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cefnogi Amrywiaeth a Chynhwysiant
Coleg Gwent yw ble mae pawb yn perthyn. Rydym ni'n falch o fod yn goleg croesawgar a chynhwysol ble gallwch fod yn chi'ch hun, teimlo'n ddiogel a chael eich parchu – pwy bynnag ydych chi.
WRydym wedi ein hymrwymo i greu amgylchedd positif a phenagored ble gall dysgwyr ac aelodau staff o gefndiroedd amrywiol ffynnu.
I ddarllen ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol diweddaraf, ewch i’n tudalen Llywodraethiant.
Ein hymrwymiad i gynhwysedd
- Hyrwyddwn gynhwysedd a sicrhawn y gall pawb fod eu hunain tra yn y coleg.
- Ein campysau yw gofodau lle mae caredigrwydd, tegwch a dealltwriaeth wrth wraidd popeth a wnawn.
- Mae amrywiaeth yn cyfoethogi ein cymuned ac yn sbarduno syniadau ffres a ffyrdd newydd ac arloesol o feddwl.
- Gweithiwn yn ddi-baid i chwalu rhwystrau a meithrin cymuned sy'n adlewyrchu'r byd sydd o'n cwmpas.
Ein Siarter Amrywiaeth
Er mwyn cefnogi’r Coleg i fod yn gymuned barchus, mae grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd wedi cael ei greu. Gwyliwch i ddarganfod pam eu bod nhw mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar waith