Coleg Gwent yn ganol llwyfan yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills y DU
Enillodd dysgwyr bum medal a gosododd Coleg Gwent yn drydydd yn y tabl cynghrair DU.
1 Rhagfyr 2025
Cafodd Coleg Gwent ei ddewis fel un o bum lleoliad yn unig ar draws de Cymru i gynnal rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills y DU yr wythnos diwethaf wrth i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf yn hanes y wlad.
Dewiswyd chwe myfyriwr dawnus o Coleg Gwent o blith cannoedd o gystadleuwyr i gystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth – fel cydnabyddiaeth o’r sgiliau ar draws ystod o ddisgyblaethau. Cystadlwyd ym mhob maes o drin gwallt a harddwch i Gelf Gemau 3D — gan lwyddo i ennill pump medal a gosod yn drydydd yn y tabl cynghrair.

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent: “Rydym yn hynod o falch o’n myfyrwyr sy’n cystadlu yn rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills y DU. Mae eu cyflawniadau yn adlewyrchu’r sgiliau, yr addysgu a’r adnoddau o safon uchel sydd ar gael yn Coleg Gwent.”
Ychwanegodd: “Mae’r cystadlaethau hyn yn rhoi profiadau amhrisiadwy i bobl ifanc – gan agor eu llygaid i bosibiliadau newydd ac arddangos y potensial eithriadol yn ein rhanbarth.”
Mae un o’r myfyrwyr a enillodd fedal oedd Shakaya Powell, 18 oed, sy’n therapydd harddwch dan hyfforddiant o Gasnewydd. Mae Shakaya bob amser wedi meddu ar angerdd am greadigrwydd ac mae hi mor ymroddedig i berffeithio ei chrefft ei bod, yn aml, yn mynd i’r coleg ar ei diwrnodau i ffwrdd er mwyn mireinio arferion a pherffeithio ei sgiliau.
Wrth astudio ar ei chwrs yn Coleg Gwent, roedd Shakyah hefyd yn cefnogi ffrind agos trwy ei brwydr canser – sef brwydr, yn drist iawn, yr oedd ei ffrind wedi’i cholli. Roedd yn brofiad torcalonnus i Shakaya ond cryfhaodd ei phenderfyniad i lwyddo.
Yn ei blwyddyn gyntaf yn cystadlu yn y categori harddwch, dywedodd Shakyah: “Bu farw fy ffrind gorau ar yr un diwrnod y cefais wybod fy mod wedi cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills y DU — a oedd yn ofnadwy iawn ond, ar yr un pryd, credaf ei bod yn arwydd ganddi yn dweud wrthyf am gario ymlaen a chystadlu ar ei chyfer hi. Roedd cydbwyso fy astudiaethau â’r galar yn anodd ar adegau ond rwyf wedi sylweddoli, os ydych chi’n ddigon penderfynol ac rydych chi’n gosod rhywbeth yn eich pen, mae unrhyw beth yn bosibl.
“Mae cystadlu wedi bod yn brofiad anhygoel. Yn ogystal ag agor y drws i gyfleoedd newydd, mae hefyd wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau wrth roi cyfle i mi wneud ffrindiau gwych ar hyd y ffordd”.

Yn ogystal â chynnal Rownd Derfynol Cystadleuaeth WorldSkills, cynhaliodd Coleg Gwent ddigwyddiad arddangos sgiliau ar gyfer ysgolion uwchradd lleol o ledled y rhanbarth. Dyluniwyd y digwyddiad i gynnig cyfle i ddysgwyr ifanc archwilio ystod o gyfleoedd sydd ar gael yn y coleg gan hefyd gael cyfle i ennill sgiliau newydd.
Mynychodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Casnewydd, Ysgol St Julian, Ysgol Uwchradd Bedwas ac Ysgol Uwchradd Llanwern ddigwyddiad gan gymryd rhan mewn ystod o arddangosiadau sgiliau ymarferol ac archwilio arddangosfa cyflogwyr ar ffurf ffair y glas. Cynigiodd cyflogwyr blaenllaw gan gynnwys Wilmot & Dixon, Heddlu Gwent a’r Fyddin weithgareddau ymdrochi o brofiadau realiti rhithwir i Ystafell Ddianc Seiber.
Dywedodd Richard Wheeler, Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau: “Mae cynnal Rowndiau Terfynol cystadleuaeth WorldSkills y DU yn Coleg Gwent wedi rhoi cyfle anhygoel i blant ysgol lleol weld sgiliau ar lefel uchel ar waith gan sbarduno ysbrydoliaeth ac arddangos llwybrau gyrfa posibl mewn diwydiannau y mae galw mawr amdanynt.”
Mae cystadleuaeth WorldSkills y DU yn bartneriaeth ar draws y pedair cenedl rhwng maes addysg, diwydiant a llywodraethau’r DU – sy’n gweithio i godi safonau ymysg prentisiaethau ac addysg dechnegol i helpu i drawsnewid y DU yn ‘economi sgiliau’.
Er mwyn cefnogi hyn, mae cystadleuaeth flynyddol WorldSkills y DU yn ceisio cydnabod a dathlu gwaith a sgiliau eithriadol sy’n cael eu harddangos gan golegau lleol, darparwyr hyfforddiant, gweithleoedd a phlatfformau addysgu ar-lein ar draws y wlad.
Ewch i'n tudalen gystadleuaeth Sgiliau i gael rhagor o wybodaeth