En

Taith Coleg Gwent Tuag at Garbon Sero Net


25 Mawrth 2024

Yn Coleg Gwent, rydym yn falch o fod yn llysgenhadon ar ran yr amgylchedd. Fel y sefydliad addysg bellach mwyaf yng Nghymru, rydym yn cydnabod yr effaith ddwys y gall ein gweithredoedd ei chael ar yr amgylchedd. Dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo i weithredu strategaethau arloesol i leihau ein hôl troed carbon a gweithio tuag at gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Rydym yn integreiddio cynaliadwyedd yn rhan o’n prosesau gwneud penderfyniadau i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ffocws canolog ym mhob agwedd ar ein gweithredoedd, ac, felly, rydym wedi dechrau sawl menter newydd i wella ein cynnydd tuag at ein nodau cynaliadwyedd.

  1. Egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy: Wrth i ni gynnal nifer o brosiectau cyfalaf, gan gynnwys HiVE a datblygiad campws Crosskeys, rydym yn ymdrechu i ymgorffori atebion effeithlonrwydd ynni yn rhan o bob prosiect adeiladu newydd a phob prosiect adnewyddu i optimeiddio defnydd ynni a chadw allyriadau carbon i isafswm.
  2. Pweru ein hadeiladau: Darperir yr ynni ar gyfer ein holl gampysau gan gyfuniad y nwy, paneli solar a boeleri biomas. Rydym ni’n cynyddu’r ynni solar a gynhyrchir ar ein campws yn raddol drwy ddefnyddio mwy o wyntyllu naturiol a goleua ynni-isel. Hefyd, trwy drawsnewid ein Campws Crosskeys, rydym ni yn creu campws carbon sero net modern a deinamig a fydd yn fodel ar gyfer dysgu cynaliadwy.
  3. Cau campysau dros wyliau’r Pasg: Wrth i lai o adeiladau fod yn weithredol, gallwn leihau yn sylweddol ddefnydd ynni sy’n gysylltiedig â gwresogi, oeri, goleuo a chyfleusterau eraill. Mae hyn, nid yn unig, yn lleihau ein hallyriadau carbon ond hefyd yn helpu i gadw adnoddau gwerthfawr. Er bod cynnal cyfnod prawf o gau campysau dros wyliau’r Pasg yn gam ymlaen sylweddol, mae’n un elfen yn unig o’n strategaeth gynaliadwyedd ehangach. Rydym yn archwilio atebion arloesol yn barhaus gan roi arfer gorau ar waith ar draws pob agwedd ar ein gweithrediadau.
  4. Gwahanu Gwastraff: Rydym yn gweithio i wella gwahanu gwastraff ar y campws. Ar hyn o bryd, rydym yn cynhyrchu 440 o dunelli o wastraff pob blwyddyn gan gynhyrchu 8.86 tCO2e. Er bod y gwastraff hwn yn cael ei wyro o safle tirlenwi, 17% yn unig sy’n cael ei ailgylchu a chaiff y gweddill ei losgi at ddiben cynhyrchu ynni. Er mwyn cyrraedd ein targed ailgylchu o 90% erbyn 2030 ac i gydymffurfio â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn rhoi mesurau ar waith i wahanu gwastraff a chynyddu ymdrechion ailgylchu yn sylweddol.

Bydd ein llinell ffôn (01495 333777) a’n sgwrs we yn parhau i fod ar agor yn ôl yr arfer drwy gydol gwyliau’r Pasg os hoffech chi siarad ag aelod o staff.