Newyddion

Coleg Gwent yn cefnogi dysgwyr anabl sy'n ymgymryd ag interniaethau gofal iechyd.

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl eleni (03 Rhagfyr), mae Coleg Gwent yn amlygu rhai o’r myfyrwyr sydd wedi cymryd y cam i ymgymryd ag interniaethau â chymorth yn Ysbyty Nevill Hall drwy’r cynllun Gwerth Profiad Gofal.

Fel menter a sefydlwyd drwy bartneriaeth o ddarparwyr ac addysgwyr gofal iechyd lleol — gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru — nod y cynllun Gwerth Profiad Gofal yw annog rhagor o fyfyrwyr o Dde Cymru i ddilyn rolau mewn gofal iechyd. Yn ogystal â’u helpu i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, nod arall y cwrs yw anelu at ddatblygu cenhedlaeth newydd o ymgeiswyr mawr eu hangen yn y diwydiant gofal iechyd.

Ynghyd â chynorthwyo nhw i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, mae'r cwrs hefyd yn ymdrechu i ddatblygu cenedlaeth newydd o ymgeiswyr angenrheidiol yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd rhan o’r cynllun yn gweld y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, o blith cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) Coleg Gwent, yn ymgymryd ag interniaethau â chymorth am dridiau’r wythnos yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni.

Mae’r dysgwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â staff cyfleusterau mewn amrywiaeth o wahanol rolau, gan gynnwys porthorion, glanhawyr, gwesteiwyr ward, derbyn a dosbarthu mewn storfeydd, gwasanaethau gweinyddol, a chofnodion meddygol. 

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Ysbyty Nevill Hall fod yn rhan o’r fenter, gyda staff a dysgwyr fel ei gilydd yn elwa o’r bartneriaeth.

Soniodd Luke Porter, dysgwr sy’n cymryd rhan yn yr interniaeth ar hyn o bryd ac sy’n gweithio yn yr adran cofnodion iechyd, am ei brofiad: “Rwy’n hoffi gweithio yn adran cofnodion yr ysbyty, oherwydd mae’n amgylchedd heddychlon, ac mae’r staff i gyd yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol iawn.

“Rydw i wedi dod yn llawer mwy hyderus ers dechrau’r rôl ac rwyf wedi ennill sgiliau cymdeithasol a rheolaeth, a fydd yn fy helpu i ddod yn llawer mwy annibynnol.”

Dywedodd Harley Jones, dysgwr arall sy’n cymryd rhan yn yr interniaeth ar hyn o bryd ac sy’n gweithio ar ddesg y dderbynfa: “Fy hoff ran o’r swydd yw cael cwrdd a helpu pobl bob dydd — person pobl ydw i, felly rydw i wrth fy modd yn bod o gwmpas cymaint o bobl newydd.

“Mae gweithio ar y dderbynfa wir wedi fy helpu i fagu fy hyder a gwella fy sgiliau gwaith — rydw i nawr eisiau cael swydd ran-amser a symud ymlaen at swydd llawn amser yn y pen draw.”

Dywedodd Sophie Rimmer, Darlithydd ILS yn Coleg Gwent: “Mae bod yn rhan o’r fenter Gwerth Profiad Gofal yn bwysig iawn i ni yn Coleg Gwent. Deallwn y gwerth o allu darparu’r offer i ddysgwyr lleol ar gyfer gyrfa foddhaol yn y dyfodol ym maes gofal iechyd.

“Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan yn yr interniaethau â chymorth yn enghraifft wych o faint y gellir ei ennill o’r rhaglen — mae wedi bod yn wych gweld eu hyder yn cynyddu dros yr wythnosau diwethaf. Nid yn unig yw’r rhaglen yn darpru cyfle i fyfyrwyr ennill profiad yn y byd go iawn wrth astudio yn Coleg Gwent, ond mae hefyd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol ar ôl coleg. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn parhau i ddatblygu drwy gydol gweddill y cwrs.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth anghenion dysgu ychwanegol a gynigir yn Coleg Gwent, ewch i yma.