Photography student
Newyddion

Dysgwr 33 oed yn dathlu llwyddiant yn Coleg Gwent

John Fraser-Natale yw’r dysgwr Coleg gwent cyntaf erioed i astudio ar gwrs gradd gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain

Myfyriwr byddar 30 oed, John Fraser-Natale, sy’n byw yng Nghasnewydd, yw’r dysgwr Coleg gwent cyntaf erioed i astudio ar gwrs gradd gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bydd John yn cyflwyno ei draethawd estynedig ac unrhyw aseiniadau eraill yn BSL.

Ar hyn o bryd, mae John yn astudio ar gwrs gradd BA Atodol – Ffotograffiaeth, ar ôl cwblhau ei gwrs Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yn Coleg Gwent ar gampws Crosskeys, gyda chymorth y Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu sy’n rhyugl yn BSL. Sylfaenwyd Clwb Byddaron y coleg yn 2020 ac mae’n cael ei gynnal bob wythnos. Mae’n cynnwys sgwrs Teams ar gyfer pob dysgwr byddar ar bob campws gan alluogi i aelodau gyfathrebu trwy fideo, drwy gyfrwng BSL.

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent: “Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu – os ydych chi’n dymuno dilyn llwybr gyrfa newydd, datblygu eich syniad busnes neu roi cynnig ar weithgaredd newydd.  

Photography learner

“Mae’r coleg yn gweithio’n agos gyda SenCom ac mae’n cefnogi dysgwyr byddar trwy BSL a Saesneg a Gefnogir gan Arwyddion (SSE) er mwyn iddynt allu dysgu sgiliau newydd, cynyddu eu gwybodaeth a magu hyder wrth astudio gyda ni.

“Mae cyrsiau rhan-amser hyblyg Coleg Gwent yn dechrau ac yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac, yn aml, mae oedolion yn dychwelyd i ni i astudio ar gyrsiau ychwanegol wrth iddynt ragori a symud ymlaen yn eu disgyblaethau. Eleni, rydym wrth ein boddau’n cael croesawu mwy o oedolion, o bob oedran, sydd wedi penderfynu dilyn eu nodau a’u diddordebau gyda ni.” 

Penderfynodd John gofrestru ar gyfer cwrs nos mewn ffotograffiaeth ddwy flynedd yn ôl a daniodd ei angerdd am ffotograffiaeth gan arwain ato’n astudio ar ei gwrs gradd sylfaen a chwrs gradd BA Atodol. Ni chaniataodd John i’w oedran na’i fyddardod amharu ar ei allu i ddilyn angerdd.   

Mae John eisoes yn cymryd camau mawrion yn ei yrfa ym maes ffotograffiaeth trwy wirfoddoli fel ffotograffydd ar gyfer Pêl-droed Byddar Cymru, Rygbi Byddar Cymru, Gŵyl Fyddar Geltaidd a Deaf Gathering Cymru – gan ei helpu i adeiladu ei bortffolio ac ehangu ei rwydwaith. 

Dywedodd John:

“Mae’r staff yn Coleg Gwent wedi bod mor gymwynasgar o’r diwrnod cyntaf sydd wedi’i gwneud mor hawdd i mi ddysgu. Neilltuwyd Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu i mi, sef Nisha a Joa, pan gofrestrais ar gyfer fy nghwrs. Maen nhw wedi bod yno i mi drwy gydol fy nhaith ddysgu, gan fy annog a’m cefnogi ar bob cam o’r ffordd.  

Learner and tutor with camera

“Mae eu cefnogaeth wedi fy helpu i fagu hyder a, hefyd, ddatblygu fel person. Nid oedd hi fel hyn pan oeddwn i yn yr ysgol, nid oedd unrhyw un yn gwybod sut i ddefnyddio iaith arwyddion felly roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i ffordd o ymdopi. Roeddwn i’n teimlo’n unig iawn ac yn teimlo fy mod yn profi gwahaniaethu. 

“Hoffwn ddefnyddio fy ngwaith ffotograffiaeth i godi ymwybyddiaeth am y gymuned Fyddaron ac ymgyrchu dros hawliau Byddaron a gwelededd ar draws Cymru a’r byd ehangach. Roedd prosiect fy ngradd sylfaen yn seiliedig ar bortreadu’r gymuned fyddar a byddaf yn parhau i ymdrechu am degwch i bobl fyddar trwy gyfrwng ffotograffiaeth. 

“Ar ôl i mi orffen fy ngradd BA, rwy’n dymuno ennill gradd Meistr mewn ffotograffiaeth hefyd a mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes hwn.   

Ewch i’n cyrsiau i ddysgu mwy ac i wneud cais