En

Awgrymiadau i brentisiaid ar ddod o hyd i swydd

Gwybod lle i chwilio

Gwefannau’r Cyflogwyr 
Bydd llawer o gyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd Prentisiaeth yn yr adran swyddi ar eu gwefan.  Byddwch angen gwneud cais ar-lein neu gwblhau ffurflen gais bapur, yn dibynnu ar eu proses recriwtio.

Canolfan Byd Gwaith
Bydd rhai cyflogwyr yn hysbysebu drwy’r Ganolfan Byd Gwaith leol.  Gallwch chwilio am eich canolfan leol ar eu gwefan.

Papurau newydd lleol
Weithiau, bydd gwybodaeth am Brentisiaethau yn cael ei hargraffu yn yr adran swyddi mewn papurau newydd lleol, sydd gan amlaf yn nodwedd wythnosol.  Os nad ydych eisiau prynu papur newydd, bydd copïau ar gael yn eich llyfrgell a’ch Canolfan Byd Gwaith leol.

Ysgrifennu eich CV

Diweddarwch eich CV
Un pwrpas sydd gan CV – cael cyfweliad i chi.  Fel arfer, eich CV yw’r peth cyntaf y bydd cyflogwr yn ei weld gennych, felly mae’n bwysig ei fod yn arddangos eich sgiliau ac yn eich gwahaniaethu chi oddi wrth ymgeiswyr eraill.  Dyma rai awgrymiadau ar sut i ysgrifennu CV gwych:

Datganiad Personol
Meddyliwch amdano fel hysbyseb deledu yn ceisio eich gwerthu chi. Defnyddiwch y cyfle yma i gyfleu pam y byddech chi’n aelod staff gwych, ond byddwch yn gryno a pherthnasol.  Nid oes gan gyflogwyr amser i ddarllen testun hirfaith.

Cymwysterau a Thystysgrifau
Nodwch eich cymwysterau gorau yn gyntaf, ond cofiwch restru’r cyfan.

Addysg
Cofiwch nodi ym mha ysgol neu goleg fuoch chi’n astudio, gan nodi’r mwyaf diweddar yn gyntaf.

Cyflogaeth/ profiad gwaith
Eglurwch beth oedd eich dyletswyddau yn ystod eich profiad gwaith neu gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw lwyddiannau penodol sydd yn berthnasol i’r swydd dan sylw.

Sgiliau
Nodwch unrhyw sgiliau sydd gennych fyddai’n gymorth i chi yn y swydd rydych yn ymgeisio amdani, megis cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau cyfrifiadurol.

Diddordebau personol
Er bod eich CV yn arddangos eich cymwysterau a’ch gyrfa, mae’r adran diddordebau personol yn datgelu mwy am eich personoliaeth.  Cofiwch gynnwys diddordebau sydd ddim yn ymwneud â’r ysgol/coleg. Portreadwch eich hun fel unigolyn dymunol, diddorol a brwdfrydig.

Canolwyr
Yn ddelfrydol, bydd gennych eirda ar gyfer swydd, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y swydd rydych yn ymgeisio amdani. Os nad oes gennych, gallwch gynnwys geirda personol gan rywun sydd ag argraff dda ohonoch, fyddai’n darparu disgrifiad canmoliaethus.  Mae’n bwysig derbyn caniatâd y canolwr cyn defnyddio eu geirda.

I gael arweiniad ar sut i greu CV, defnyddiwch Adeiladydd CV Gyrfa Cymru.

Llenwi ffurflenni cais

Sicrhewch fod eich cais yn unigryw; mae’n bwysig creu argraff dda fel bod cyflogwyr eisiau cyfarfod â chi. Cofiwch wneud llungopi o’r fersiwn terfynol. Mae hyn yn bwysig os byddwch yn cael cyfweliad, oherwydd efallai y byddwch eisiau edrych yn ôl dros yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu cyn mynd i’r cyfweliad.

Ysgrifennu llythyrau eglurhaol

Swynwch y cyflogwyr gyda’ch llythyr eglurhaol.  Sicrhewch fod y frawddeg gychwynnol yn nodi pa swydd rydych yn ymgeisio amdani. Ysgrifennwch yn ddifyr a chryno gan ddenu’r cyflogwyr i daro golwg ar eich CV neu ffurflen gais. Gofalwch nad yw’r llythyr yn rhy hir; fel arfer mae dau baragraff yn ddigon. Cofiwch nodi eich manylion cyswllt fel eu bod nhw’n gallu cysylltu â chi i drefnu i’ch cyfarfod.

Awgrymiadau ar gyfer cyfweliad

Osgowch nerfau cyfweliad drwy:

  • Baratoi
  • Cyrraedd y cyfweliad mewn da bryd
  • Cysgu’n dda a bwyta brecwast
  • Cynllunio pa ffordd i fynd i’r cyfweliad
  • Rheoli eich anadlu
  • Ymddwyn yn briodol a bod yn hyderus

Gwisg ar gyfer cyfweliadau 

  • Peidiwch â gwisgo’n rhy anffurfiol
  • Peidiwch â gwisgo unrhyw beth am eich pen – capiau, hetiau neu hetiau beanie
  • Os ydych yn gwisgo tei, sicrhewch ei fod yn smart a syml.
  • Peidiwch â gwisgo gormod o emwaith ac ati

Cwestiynau cyffredin mewn cyfweliad 

  • Beth yw eich cryfderau? Dewiswch dri phriodoledd fydd, yn eich barn chi, yn helpu eich siawns o gael y swydd.
  • Beth yw eich gwendidau? Dewiswch rywbeth lle gwnaethoch gymryd camau positif i newid y sefyllfa
  • Pam y dylem ni eich dewis chi?
  • Beth yw eich amcanion?
  • Pam ydych chi eisiau gweithio yma?
  • Beth yw’r tri pheth cadarnhaol fyddai eich athro/cyflogwr yn ddweud amdanoch?