En

Gwybodaeth i Brentisiaid

apprentice

Gall dilyn prentisiaeth eich arwain chi at yrfa lwyddiannus, ac yn Coleg Gwent rydym yn darparu rhaglen Prentisiaethau safon uchel.

Mae Prentisiaethau ar gyfer unigolion sydd yn 16 oed neu fwy, sydd yn byw yng Nghymru, ac yn cael eu cyflogi mewn sector diwydiant am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Yn fras, set o gymwysterau, a elwir yn ‘fframwaith’, sy’n cael ei datblygu gan Gynghorau Sgiliau Sector yw Prentisiaeth. Mae pob prentis yn dilyn fframwaith Prentisiaeth wedi ei gymeradwyo gan ddiwydiant, i ddatblygu sgiliau safon uchel mae cyflogwyr yn ysu amdanynt.

Mae’r fframwaith yn cynnwys lleiafswm o:

  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol yn darparu sgiliau penodol i feysydd galwedigaethol
  • Cymwysterau Gwybodaeth Dechnegol – i gefnogi eich sgiliau ymarferol
  • Sgiliau gwaith trosglwyddadwy – megis cyfathrebu a chymhwyso rhif

Rydym yn cynnig Prentisiaethau ar ddwy lefel: Prentisiaeth Sylfaenol (cyfwerth â phump TGAU, Gradd A-C) a Phrentisiaeth (cyfwerth â llwyddo mewn dau bwnc Lefel A).

Rydym yn cynnig y llwybrau Prentisiaeth a Phrentisiaeth Sylfaenol canlynol yn Coleg Gwent:

• Adeiladu Adeiladwaithac

  • Peirianneg Sifil
  • Peirianneg
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Cerbydau Modur
  • Plymio
  • Weldio

Anelu’n uchel: Mae modd i Brentisiaid hyfforddi at lefel gradd ac uwch – Mae Prentisiaid yn gweithio o fewn rhai o feysydd mwyaf datblygedig a thechnegol economi Cymru, megis peirianneg.

Ennill wrth ddygsu: Nid yw addysg llawn amser yn addas i bawb. Os ydych eisiau cychwyn gweithio, ond eisiau ennill cymwysterau ochr yn ochr â’r sgiliau a’r profiad newydd sydd gennych, ac yn cal eich cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos, gallai Prentisiaeth fod yn addas i chi.

Swydd go iawn: Defnyddiwch eich sgiliau newydd yn y gweithle, a dewch i’r coleg, un diwrnod yr wythnos fel rheol.

Cymhwyster go iawn: Cymhwyster cenedlaethol a gydnabyddir gan gyflogwyr ledled y byd.

Derbyn cyflog: Byddwch yn ennill profiad yn y diwydiant, sgiliau gwaith a chymwysterau wrth dderbyn cyflog! (yn ôl gofynion isafswm cyflog cenedlaethol)

Dyfodol disglair: Mae 85% o Brentisiaid yn aros mewn cyflogaeth ar ôl cwblhau eu Prentisiaeth ac mae 32% yn derbyn dyrchafiad o fewn 12 mis ar ôl gorffen.

Oes. I fod yn brentis mae’n rhaid i chi fod mewn gwaith o fewn y diwydiant. Os ydych yn byw yng Nghymru, yn 16 oed neu hŷn, ddim mewn addysg llawn amser ac mewn gwaith o fewn y diwydiant, cewch ymgeisio.

Fel rheol, bydd yn rhaid i chi fynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos, i weithio tuag y Dystysgrif Dechnegol a’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, sef yr hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith. Byddwch yn treulio gweddill yr wythnos gyda’ch cyflogwr, yn dysgu wrth weithio, cynyddu gwybodaeth a sgiliau ac ennill cymwysterau.

Yn y coleg byddwch yn derbyn y wybodaeth ac yn datblygu sgiliau, a bydd eich cyflogwr yn darparu’r profiad ymarferol i ddefnyddio’r sgiliau hynny. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn dosbarth ,mewn  gweithdy neu yn y gweithle – yn dibynnu ar y pwnc.

Mae hyn yn ddibynnol ar ba lwybr rydych yn ei ddilyn, ond mae’r mwyafrif o fframweithiau Prentisiaeth yn cynnwys NVQ Lefel 2 neu 3, Tystysgrif Dechnegol a Sgiliau Hanfodol. Am fwy o fanylion e-bostiwch ni neu ffoniwch 01495 333355.

Wrth gofrestru ar gyfer y cynllun hyfforddi, byddwch yn cael targed amser i gwblhau’r gwaith. Fodd bynnag, mae’n cymryd rhwng 12 a 24 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaenol a gall gymryd hyd at ddwy flynedd i gwblhau Prentisiaeth, yn dibynnu ar y llwybr rydych yn ddilyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, mae ein tîm Prentisiaethau yn barod iawn i helpu , gallwch anfon e-bost atynt neu roi galwad iddynt ar 01495 333355.