HiVE Datblygiadau Ystadau
Gyda’r angen cynyddol am wybodaeth a sgiliau STEM yn yr economi leol, uchelgais Coleg Gwent yw addysgu gweithlu’r dyfodol mewn adeilad pwrpasol lle bydd myfyrwyr yn cael eu hamgylchynu gan arloesedd a thechnoleg sy’n adlewyrchiad o’r diwydiant.
Bydd ein Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel (HiVE) newydd yng Nglynebwy yn agor ar hen safle ffatri Monwel yn 2025.
Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru, y Cymoedd Technoleg, ac addysg, rydym yn buddsoddi mewn Canolfan Beirianneg Uwch yn agos at gampws Parth Dysgu Blaenau Gwent, a fydd yn cynnig addysg peirianneg o ansawdd uchel er mwyn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn y cyfnod adeiladu, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau mewn pryd i groesawu myfyrwyr, yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau peirianneg yn Coleg Gwent o Hydref 2025.
Bydd y cyfleuster addysg carbon-niwtral a chwbl ddigidol, yn hyfforddi gweithlu’r dyfodol mewn disgyblaethau peirianneg uwch megis roboteg, deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, gweithgynhyrchu awtonomaidd, efelychiad a realiti estynedig. Bydd y cwricwlwm yn cael ei gynllunio a’i arwain gan arbenigwyr yn y diwydiant. Cyflwynir cyrsiau newydd ar lefelau 3, 4, 5 a 6, gan ddod â rhagoriaeth ac arbenigedd i’r ardal a rhoi hwb i’r economi leol.
Bydd HiVE, drwy ddod â diwydiant ac addysg at ei gilydd i faes peirianneg gwerth uchel, yn cynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu i bartneriaid yn y diwydiant. Bydd yn ganolfan ar gyfer rhaglenni allgymorth ysgolion a chyflogwyr, a fydd o fudd i’r gymuned ehangach.
Gwasanaethau Myfyrwyr
- Lle i tua 600 o ddysgwyr
- Cyfleuster glân, cynllun agored a chwbl awtomataidd
- Labordai awtomatiaeth
- Ystafelloedd realiti rhithwir a realiti estynedig
- Cyfleusterau Gweithgynhyrchu Uwch
- Gweithdai cerbydau awtonomaidd
- Canolfan Uwch Ddeunyddiau Dennison (DAMC)
- Cyfleusterau chwaraeon moduro ac awyrofod arbenigol
- Cyfleusterau cysylltiedig â'r gofod, dronau a cherbydau awtonomaidd
Oriel
Diweddariadau
Diweddariadau
Cymhwysiad HiVE
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn rhoi'r cyfleuster drosodd i Coleg Gwent, er mwyn bod yn barod i groesawu'r gyfran gyntaf o ddysgwyr ym mis Medi.
Coleg Gwent yn arwain ymestyn rhaglen beirianneg i ysgolion yn ne Cymru
22 o ysgolion ychwanegol yn ne Cymru yn cael budd o brosiectau addysg beirianneg (HiVE).
Ffurfiwyd Bwrdd Cynghori Cyflogwyr
Cyflwynodd Coleg Gwent a Chyngor Sirol Blaenau Gwent eu cynlluniau ar gyfer y cyfleuster HiVE newydd i ddarpar gyflogwyr cyn ymestyn gwahoddiad iddyn nhw ymuno â Bwrdd Cynghori’r HiVE.
Dechreuodd y gwaith adeiladu
Mae’r contractwyr ISG wedi dechrau gwaith ar safle hen ffatri Monwel Hankison.
Offer a brynwyd
£500,000 o offer peirianneg gwerth uchel wedi ei brynu i'w brofi ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent.
Cynllun peilot allgymorth ysgolion
Mae prosiect hyb peirianneg allgymorth peilot i ysgolion gwerth £100,000 wedi dechrau yn Ysgol Gyfun Tredegar.
Dyddiad agor amcanol
Y nod yw y bydd Canolfan HiVE wedi ei chwblhau ac ar agor ym mis 2024.
Dyddiad dechrau disgwyliedig
Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle ym mis Medi 2023.
Prosiect allan i dendr
Gwahoddir ceisiadau i dendro ar gyfer y prosiect yn ddiweddarach y mis hwn (Mai 2022).
Cyfnod cynllunio manwl
Mae'r prosiect o dan reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac yn y cyfnod cynllunio manwl ar hyn o bryd.
Caniatâd cynllunio wedi'i roi
Mae caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect HiVE wedi'i roi.
Cyflwyno cais cynllunio
Mae'r cais cynllunio ar gyfer canolfan Beirianneg Gwerth Uchel gwerth £8.5M wedi'i gyflwyno.