Amdanom Ni
Croeso i Coleg Gwent i Gyflogwyr, cyrchfan un stop ar gyfer sefydliadau yn Ne Ddwyrain Cymru.
P’un a ydych eisiau hyfforddiant i’ch staff, yn ceisio canfod prentis neu’n chwilio am unigolion ifanc addawol i lenwi bwlch sgiliau, wrth weithio gyda ni gallwch gael mynediad i ystod eang o wasanaethau a manteision.
Beth yw'r manteision?
- Arbedwch amser - Un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau aml fusnes.
- Arbedwch arian - Mynediad ar gyfer nifer o ffrydiau ariannu’r llywodraeth.
- Uwchsgilio staff - Cyrsiau cynhwysfawr yn ymdrin â phob sector.
- Buddsoddi yn y dyfodol - Siapiwch weithlu lleol y dyfodol.
Ein gwaith
Nod Coleg Gwent i Gyflogwyr ydi cefnogi twf economaidd lleol, rhoi hwb i’n cymuned fusnes leol tra’n hyrwyddo cymaint o gyfleodd â phosib i’n myfyrwyr. Rydym yn adfywio cysylltiadau hefo diwydiant yn ein hardal leol ac yn meithrin myfyrwyr ysgogol sy’n barod am waith unwaith y maent yn gadael y coleg.
Rydym yn gwneud hyn drwy gyfres o fentrau sy’n cynnwys prentisiaethau, darparu mynediad i arian y llywodraeth, hyfforddiant achrededig i sefydliadau a’r cyfle i ddod yn gyflogwr partner gan chwarae rhan yng ngweithlu lleol y dyfodol.
Hidden section title
Hyfforddiant
Gallwch gwrdd â’ch gofynion hyfforddiant drwy ystod eang o gyrsiau cyhoeddus sydd wedi eu hamserlennu ar ddyddiadau gwahanol drwy gydol y flwyddyn. Methu dod o hyd i’r union beth rydych chi’n chwilio amdano? Gallwn drefnu cwrs hyfforddi wedi ei greu’n bwrpasol i’ch staff chi.
Cyllid
Gallwch gael mynediad i gynlluniau cyllido’r llywodraeth gyda Coleg Gwent gan gynnwys Cyfrifon Dysgu Personol, Uwchsgilio@Gwaith a chyllid Prentisiaethau a hwyluso.
Partneriaethau
Gweithiwch gydag un o golegau mwyaf De Cymru i sicrhau dyfodol eich busnes a’ch diwydiant. Cymerwch ran drwy ddarparu mewnbwn i fod o gymorth wrth siapio’n cwricwlwm, ymgymryd â hyfforddeion neu ddarparu sgwrs ysbrydoledig i fyfyrwyr presennol.
Pwy ydym ni
Mae’r gwasanaethau a chyfleoedd y mae Coleg Gwent i Gyflogwyr yn eu cynnig yn debyg i’r rhai sydd ar gael gan Coleg Gwent Busnes. Pan gaeodd Coleg Gwent Busnes ei ddrysau yn 2018, symudodd y gwasanaethau yr oedd y sefydliadau yn ein cymuned leol wedi eu defnyddio ac wedi dod i’w disgwyl, i Coleg Gwent i Gyflogwyr, gan ddod yn rhan o’r coleg ei hun.
Felly crëwyd Coleg Gwent i Gyflogwyr, gyda gwelliannau i’r strwythur blaenorol yn bosib drwy’r cysylltiadau gwaith agos sydd gennym o fewn y coleg ei hun. Nod ein tîm yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant tra’n cefnogi twf busnes lleol ar yr un pryd. Rydym eisoes wedi sicrhau manteision i nifer fawr iawn o sefydliadau lleol, o enwau adnabyddus i fusnesau bach annibynnol newydd.