• Rhan Amser

RTITB Peiriant Codi Telesgopig ar Dir Garw

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hyfforddiant gweithredwr Llwythwr Telesgopig Deunyddiau yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r wagen fforch godi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal arolygiad cyn defnyddio ac adalw ac esbonio'r hyn sy'n achosi ansefydlogrwydd ar gyfer y wagen fforch godi ac ansefydlogrwydd llwyth.

Caiff Llwythwyr Telesgopig Deunyddiau eu defnyddio'n eang ar draws y diwydiant adeiladu a'r diwydiant amaeth o ganlyniad i'w natur amlbwrpas a'u gallu i symud llwythi o bob siap a phob maint. Fel arfer, mae'r peiriannau yn fwy amryddawn na wagen fforch godi wrthbwyso lai o ganlyniad i'w gallu i estyn i fyny ac ymlaen a'i chapasiti codi mwy.

Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB, sy'n ddilys am 3 blynedd.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £34,303 y flwyddyn.

unrhyw un sy'n dymuno dilyn gyrfa ym meysydd diwydiant adeiladu neu'r diwydiant amaeth lle y defnyddir llwythwyr telesgopig yn rheolaidd.

Caiff y cwrs hyfforddiant ei gwblhau dros 5 diwrnod.

Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi allu:

  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am y peiriant a sut i'w weithredu'n ddiogel
  • Darganfod ac adnabod prif gydrannau a phrif reolyddion y peiriant ac esbonio eu swyddogaethau
  • Esbonio'r ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd y wagen ac adnabod sut i gynnal sefydlogrwydd y wagen a'r llwyth
  • Esbonio'r peryglon sydd ynghlwm a gorlwytho'r wagen a dangos sut i atal gorlwytho
  • Cynnal pob gwyriad cyn gweithredu
  • Cynnal pob gwiriad diogelwch angenrheidiol yn y maes gwaith
  • Symud y peiriant yn ddiogel pan fydd yn llwythog a heb lwyth, ar draws tir amrywiol mewn ardaloedd agored ac ardaloedd caeedig ac ar lethrau
  • Cyflawni tasgau codi a llwytho, gan ddefnyddio twr llwytho (sgaffaldiau) a/neu cerbyd ffordd
  • Ffitio, addasu a/neu dynnu atodiadau
  • Cyflawni pob gweithdrefn diwedd sifft a chau i lawr

Bydd gofyn i chi basio prawf theori ac asesiad gweithredydd ymarferol er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.

Argymhellir esgidiau diogelwch, ond nid yw hyn yn orfodol. Gan fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn yr awyr agored fe'ch cynghorir i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa er mwyn sicrhau trwydded i wella cyfleoedd gwaith
  • profiad blaenorol o wagenni fforch-godi
  • hyfforddiant blaenorol neu dystysgrif a sicrhawyd yn y maes hwn

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0213AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy