• Rhan Amser

CompTIA DataX

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae CompTIA DataX yn ardystiad ar lefel arbenigwr ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes data. Mae’n profi y gallwch chi:

  • Ymdrin â setiau data cymhleth
  • Defnyddio dysgu peirianyddol a modelau ystadegol
  • Gyrru mewnwelediadau busnes trwy ddadansoddi uwch
  • Gweithredu’n hyderus ar draws y cwmwl ac amgylchedd ar y safle

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

...unrhyw un sydd â dealltwriaeth gryf o ystadegau, modelu, dysgu peirianyddol a gweithrediadau data.

… enior data scientists, machine learning engineers, data science consultants, technical leads, experienced analysts, and engineers moving into strategic or leadership roles in data science.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod

Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:

  • Mathemateg ac Ystadegau
  • Modelu, Dadansoddi a Chanlyniadau
  • Dysgu Peirianyddol
  • Gweithrediadau a Phrosesau Gwyddor Data
  • Rhaglenni Gwyddor Data arbenigol

Cynrychiolwyr sy’n meddu ar bum mlynedd neu fwy o brofiad ym maes gwyddor data, cyfrifiadureg neu feysydd cysylltiedig.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0202AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy