Yn gryno
Bydd yr ardystiad hwn yn dilysu eich gallu i sefydlu, gweithredu a rheoli datrysiadau dysgu peirianyddol (machine learning - ML) gan ddefnyddio gwasanaethau ar AWS (Amazon Web Services) megis SageMaker. Cynlluniwyd ef ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn meddu ar brofiad ymarferol o gylch bywyd ML, o baratoi data i fonitro modelau.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn arbrofi ag (neu sydd â mwy o brofiad o) ML a'r cwmwl
... Peirianwyr Dysgu Peirianyddol, Peirianwyr neu Ddatblygwyr Meddalwedd, Gweithwyr Proffesiynol Technegol ayyb.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 3 Diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
- Paratoi Data
- Datblygu Modelau
- Trefniant a Gosodiad
- Monitro, Cynnal a Chadw a Diogelwch
Rhaid i chi feddu ar ddwy flynedd (neu fwy) o brofiad o ddatblygu, pensaernïo a rhedeg llwythi gwaith ML neu ddysgu dwfn ar AWS
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol