• Rhan Amser

NEBOSH Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae Tystysgrif Rheoli Amgylcheddol NEBOSH yn gymhwyster arweiniol a gydnabyddir yn fyd-eang ym maes rheoli risg amgylcheddol.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu gyrfa ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd a gweithredu systemau rheoli amgylcheddol effeithiol yn eu sefydliadau.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

... unrhyw un sydd angen dealltwriaeth gadarn o egwyddorion rheolaeth amgylcheddol, gan gynnwys y rhai sy’n dymuno dechrau neu ddatblygu eu gyrfa yn y sector hwn.

...rhai sy'n rheolwyr, goruchwylwyr a gweithwyr cyflogedig sy'n gweithio ar draws sectorau diwydiant sy'n ceisio rhoi systemau rheoli amgylcheddol effeithiol ar waith yn eu sefydliad.

Mae Tystysgrif NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn benllanw ymchwil helaeth gyda gweithwyr proffesiynol amgylcheddol, cyflogwyr, cyrff proffesiynol a rheoleiddwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y cwrs yn drylwyr ac yn berthnasol, ond hefyd yn gyraeddadwy ac ymarferol.

Deilliannau Dysgu:

  • Deall amrywiaeth o faterion amgylcheddol fel y gallwch wella perfformiad amgylcheddol a lleihau newid
  • Gweithio o fewn system reoli amgylcheddol a chyfrannu at welliant parhaus
  • Cydnabod agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig, a gwerthuso effeithiolrwydd rheolaethau presennol
  • Cefnogi penderfyniadau gyda dadleuon moesegol, cyfreithiol ac ariannol
  • Deall y cysylltiadau rhwng gweithgareddau eich sefydliad a materion amgylcheddol ehangach

Maes Llafur:

  • Uned EMC1 - Rheolaeth Amgylcheddol
  • Unet EMC2 - Asesu agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig

Asesir Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH mewn dwy ran:

  • Ar gyfer UNED EMC1, asesir ymgeiswyr drwy arholiad ysgrifenedig (i’w lawrlwytho, ei gwblhau a’i gyflwyno o fewn 24 awr), lle mae’n rhaid iddynt ddangos eu gwybodaeth a enillwyd drwy’r cwrs.
  • Mae Uned EMC2 yn asesiad ymarferol, a gynhelir yng ngweithle’r ymgeisydd. Rhaid cyflwyno’r asesiad ymarferol o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad arholiad a archebwyd.

Rhoddir tystysgrif uned yn dynodi cyflawniad pob uned.

Rhoddir memrwn dyfarnu’r dystysgrif ar ôl cwblhau’r ddwy uned.

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall Saesneg at safon briodol er mwyn deall a chyfleu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Bydd angen i chi neilltuo 5 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.

Sylwch y cynhelir Arholiadau NEBOSH ar ddyddiadau penodol yn unig drwy gydol y flwyddyn.

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0145AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy