• Rhan Amser

BPEC Ailasesiadau Nwy ACS (CENWAT1, CKR1, HTR1, MET1)

Student testing a domestic boiler
Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Yn gryno

Mae’r diwydiant nwy domestig wedi ei reoleiddio’n llym a darperir asesiad o dan y Cynllun Ardystio Achrededig (ACS). Mae Canolfan Nwy y coleg yn ganolfan wedi ei chymeradwyo gan BPEC sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau nwy domestig sy’n ddelfrydol ar gyfer plymwyr profiadol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gofrestru â Gas Safe.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i adnewyddu'ch cymwysterau nwy ACS presennol, sy'n ofynnol bob 5 mlynedd.

Ar ol cwblhau'r asesiadau hyn mewn unedau newydd, byddwch yn gallu ehangu'ch cwmpas gwaith ac yn gallu datblygu'ch gyrfa ym maes y diwydiant nwy.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad i astudio ar y Cynllun ACS i alluogi cofrestriad a Diogelwch Nwy.

Caiff ymgeiswyr eu dosbarthu i'r 3 chategori:
Categori 1 - Gweithredwr gosod nwy profiadol sy'n dymuno adnewyddu ei gymwysterau ACS
Categori 2 - Bydd ymgeiswyr yn meddu ar gymwysterau a nodir dan Nodyn Canllaw 8 (e.e. NVQ 2 mewn Plymwaith a Gwresogi) a darparu tystiolaeth ysgrifenedig i'r ganolfan asesu sy'n cadarnhau eu bod wedi cyflawni profiad gwaith a hyfforddiant ar gyfer yr ystod o asesiadau i'w sefyll.
Categori 3 - Mae'n rhaid i ymgeiswyr sy'n newydd i'r diwydiant ddilyn Rhaglen Dysgu a Reolir (MLP) cyn sefyll unrhyw Asesiad Cychwynnol ACS.

Mae ymgeisydd sydd wedi cwblhau ac sydd wedi'i ardystio trwy gymhwyster Rhaglen Dysgu a Reolir yn gymwys i gyflwyno cais am gymhwyster ACS nwy cychwynnol.

Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf trwy beidio a darparu'r dystiolaeth addas ar gyfer Categori 1 neu Gategori 2 eu dosbarthu yn ymgeisydd newydd i'r diwydiant a'i ystyried yn ymgeisydd Categori 3.

Mae'r Coleg yn cynnal amrywiaeth eang o asesiadau. Mae tystysgrifau'n ddilys am bum mlynedd ac ar ôl hynny mae angen ailasesiad. Nid yw hyfforddiant yn rhagofyniad ar gyfer ailasesu, ond gall y coleg ei ddarparu ar gais. Er mwyn cwblhau asesiadau cychwynnol, rhaid i chi feddu ar dystysgrif i ddangos eich bod wedi cwblhau rhaglen ddysgu a reolir berthnasol.

Byddwch yn cael eich asesu ar eich gallu i wneud gwaith nwy yn ddiogel yn yr adrannau canlynol:

  • CCN1 – Diogelwch nwy domestig craidd, sy’n cynnwys CPA1 (dadansoddiad o berfformiad hylosgiad, nwy naturiol a nwy petrolewm hylifol)

Sylwer fod yn rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyflawni CCN1 cyn cwblhau asesiad ar y canlynol:

  • CENWAT – Gosod, cyfnewid, comisiynu, datgysylltu, gwasanaethu, atgyweirio a dadansoddi gwres canolog nwy domestig a boeleri a chylchredwyr dwr poeth, boeleri cyfunol, gwresogyddion dwr stôr a gwresogyddion dwr ebrwydd.
  • CKR1 – Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, dadansoddi a chomisiynu dyfeisiadau coginio nwy domestig
  • HTR1 - Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, dadansoddi a chomisiynu tannau nwy agored, cytbwys a ffan gyda ffliw a gwresogyddion wal domestig
  • MET1/2 – Gosod, cyfnewid, tynnu a chomisiynu mesuryddion nwy domestig
  • CMDDA1 – Profi perfformiad Carbon monocsid a hylosgiad gyda dadansoddwyr nwy symudol electronig, ac ymchwiliad manwl o ddyfeisiadau

Ar ôl i chi gwblhau Diogelwch Nwy Domestig Craidd CCN1 cewch symud ymlaen i’r dyfeisiadau domestig uchod a byddwch hefyd yn gymwys i ymgymryd â’r gwaith o newid o nwy domestig i LPG domestig:

CONGLP1PD Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer anheddau parhaol

CONGLP1LAV Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer llety hamdden

CONGLP1RPH Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer cartrefi parciau preswyl

HTRLP2 Tannau nwy ffliw caeedig

  • I gofrestru ar gyfer y cwrs hwn bydd rhaid i chi gael naillai:

    • Feddu ar dystysgrif ACS gyfredol ac angen asesiad pellach

    neu

    • Feddu ar dystysgrif ACS sydd wedi dod i ben (os yw dros 12 mis, bydd angen asesiad cychwynnol arnoch)

    neu

    • Mae eich Tystysgrif ACS wedi dod i ben (o fwy na 12 mis) ac mae arnoch chi angen asesiad cychwynnol

Rhaid darparu'r dystiolaeth hon i'r ganolfan asesu cyn i chi allu eistedd unrhyw asesiadau.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae ffioedd y cwrs fel a ganlyn:

Domestig

Cychwynnol (asesiad yn unig)

CCN1

£POA

Bydd pob offeryn yn costio £POA yr asesiad a bydd yn cymryd 0.5 diwrnod ychwanegol yr asesiad.

Ail-asesu (Asesiad yn unig)

CCN1

£POA

Bydd pob offeryn yn costio £POA yr asesiad a bydd yn cymryd 0.5 diwrnod ychwanegol yr asesiad.

Bydd gan ymgeiswyr ar gyfer ail-asesu yr opsiwn i brynu llawlyfr hyfforddiant diweddaraf am £POA

Newid o nwy domestig i LPG domestig

Ail-asesu yn unig (dim hyfforddiant)

CONGLP1PD

£POA

CONGLP1LAV, CONGLP1RPH

£POA

HTRLP2

£POA (Ffi ar gyfer asesu ar yr un pryd a naill ai CONGLP1PD, CONGLP1LAV neu CONGLP1RPH)

Female Construction student

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
BCEM0055AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Ymgeisiwch nawr
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy