Yn gryno
Cwrs therapi uwch yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer Therapyddion Harddwch Lefel 3 sy’n dymuno ehangu eu cynnig o driniaethau.
…y rhai sy’n meddu ar gymhwyster hyd at Lefel 3 mewn Therapi Harddwch ac sydd wedi’u cyflogi yn y diwydiant (cyflogedig neu hunangyflogedig)
…y rhai 19 oed a hŷn
... os ydych chi am ehangu eich portffolio o driniaethau
... os ydych chi am ehangu eich portffolio o driniaethau
Byddwch yn dysgu am y pynciau canlynol wrth ddilyn y cwrs
- Ymgynghori estheteg uwch
- Moeseg estheteg uwch
- Gwyddor Croen
- Triniaethau Nodwyddo Croen Cosmetig
- Triniaethau Plicio Croen
- Dermaplanio (Dermaplaning)
I ennill y cymwysterau hyn, rhaid i chi gyflawni'r asesiadau canlynol:
- Portffolio o Dystiolaeth
- Case Studies and Assignments – IMPORTANT – you will be required to provide clients for case studies.
- Arholiadau allanol - ysgrifenedig ac ymarferol
Caiff y tystysgrifau hyn eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Rhagoriaeth, a neilltuir tiwtor personol i chi ar gyfer y cwrs i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad personol ac academaidd.
Gallwch symud ymlaen i gyflogaeth neu i gyrsiau Lefel 5 mewn Estheteg.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig lawn gydag esgidiau addas a bodloni disgwyliadau'r sefydliad dyfarnu. Mae presenoldeb ym mhob gwers yn hanfodol.
Cymwysterau Lefel 5 mewn Pilio Croen a Micronodwyddo Amledd Radio.
- Cymhwyster lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth
- Cyflogedig neu hunangyflogedig yn y diwydiant Harddwch/Estheteg
- 19 oed a hŷn
- Cynhelir cyfweliad mynediad gydag arweinydd y cwrs i gadarnhau eich bod ar y cwrs iawn - byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi gyflwyno eich cais i drefnu diwrnod ac amser addas.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig lawn gydag esgidiau addas a bodloni disgwyliadau'r sefydliad dyfarnu. Mae presenoldeb ym mhob gwers yn hanfodol.
Mae ffioedd cofrestru VTCT wedi’u cynnwys yn rhan o ffioedd y cwrs sydd naill ai’n gallu cael eu talu yn llawn ar ddechrau’r cwrs neu fel 7 rhandaliad misol. Bydd hyn yn cael ei drefnu gyda chi ar yr adeg cyflwyno cais a chofrestru.