Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych yn meddu ar ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Mae Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2 yn cwmpasu'r tair gwyddor, gan gyfleu gwybodaeth wyddonol sydd yn flaengar ac yn gyfoes. Bydd yn eich cyflwyno i waith yn y sector a'ch paratoi ar gyfer astudio ymhellach.
...Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwyddoniaeth
...Ydych chi'n dymuno datblygu eich dealltwriaeth ymhellach
...Ydych chi am gael arddull dysgu ymarferol
Mae'r cwrs yn cwmpasu gwyddoniaeth yn y gweithle a rolau'r technegydd a'r ymchwilydd gwyddonol. Byddwch yn astudio wyth uned orfodol y mae dau ohonynt yn cynnwys arholiadau:-
- Egwyddorion Gwyddoniaeth (dan arholiad)
- Cemeg a'r ddaear
- Egni a'r bydysawd
- Bioleg a'r amgylchedd
- Cymhwyso sylweddau cemegol
- Cymhwyso'r gwyddorau ffisegol
- Cymhwyso iechyd mewn gwyddoniaeth
- Sgiliau gwyddonol (yn cael ei arholi)
Mae'r cyfuniad yma yn sicrhau eich bod yn ymdrin â phwyntiau allweddol mewn bioleg, cemeg a ffiseg, ynghyd â dealltwriaeth o fyd gwaith galwedigaethau sy'n ymwneud â gwyddoniaeth.
Mae'r cysyniadau allweddol hyn yn ddatblygiad pellach yn yr unedau arbenigol dewisol ac yn drosglwyddadwy i sectorau cyflogedig fel iechyd, gwyddor chwaraeon, gwyddor fforensig a'r diwydiant maetheg. Mae'r unedau hyn yn cynnwys:
- Y Corff Byw
- Ymchwilio i Safle Trosedd
- Dadansoddi a Chanfod Cemegol
- Archwilio Ein Bydysawd
Bydd disgwyl i chi ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg er mwyn ennill gradd C ar gyfer cyrsiau lefel uwch (os yn angenrheidiol).
Byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2
- Gweithgareddau i Ddatblygu Sgiliau Trosglwyddadwy
- Mathemateg a Saesneg
I gofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu'n uwch arnoch, gan gynnwys pwnc gwyddoniaeth a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae angen ichi fod â diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a'r ysfa i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol, ac ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.
Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Lefel 3) neu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Astudiaethau Iechyd (Lefel 3).
O leiaf 4 TGAU gradd D neu'n uwch, gan gynnwys pwnc gwyddoniaeth a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu Gymhwyster Diploma Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol, sydd yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg.