Yn gryno
Trowch eich angerdd am Pilates yn yrfa!
Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch chi’n bodloni safonau diwydiant i ddod yn Hyfforddwr Ymarfer Grŵp ardystiedig mewn Pilates,fel y cydnabuwyd gan CIMSP
Byddwch chi’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gynllunio, cyflenwi a gwerthuso sesiynau Pilates diogel ac effeithiol.Pan fyddwch chi’n gymwys, byddwch chi’n barod i arwain dosbarthiadau heb oruchwyliaeth a datgloi cyfleoedd swyddi cyffrous yn y diwydiant ffitrwydd.
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno trw fodel dysgu cyfunosy’n cyfuno astudio ar-lein â diwrnodau hyfforddiant ymarferol, wyneb yn wyneb
Dechreuwch eich taith heddiw ac ysbrydoli pobl eraill trwy symudedd
Mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi os hoffech chi droi eich cariad at Pilates yn yrfa wobrwyol. Os ydych chi’n angerddol am helpu pobl eraill i wella eu cryfder, eu hyblygrwydd a’u lles neu os ydych chi’n dymuno ehangu eich sgiliau fel gweithiwr proffesiynol y maes ffitrwydd, mae’r cymhwyster hwn yn rhoi popeth y mae ei angen arnoch chi. Byddwch chi’n dysgu sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau Pilates sy’n ddiogel ac yn effeithiol yn hyderus, bodloni safonau diwydiant a osodwyd gan CIMSPA, ac agor drysau i gyfleoedd cyffrous fel Hyfforddwr Ymarfer Corff Grŵp ardystiedig.
Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu ar y cwrs hwn:
- Anatomeg a ffisioleg - deall sut mae’r corff yn gweithio er mwyn i chi allu dylunio rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol ar gyfer cleientiaid gwahanol.
- Sgiliau proffesiyno - datblygu sgiliau cyfathrebu, sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a sgiliau rhyngbersonol gwych i greu profiad cadarnhaol i’ch cleientiaid.
- Ymwybyddiaeth iechyd - dysgu am gyflyrau cyffredin a reolir gan feddyginiaeth a sut i addasu sesiynau ar gyfer cleieintiaid sydd â’r anghenion hyn.
- Egwyddorion Pilates – archwilio elfennau sylfaenol Pilates a’r hyn sy’n ei wneud yn ffurf effeithiol o ymarfer corf
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau – ennill y sgiliau i gynllunio, rhaglennu ac arwain yn hyderus sesiynau Pilates ar gyfer unigolion a grwpiau.
I lwyddo ar y cwrs hwn, bydd angen i chi fynychu pob sesiwn a chymryd rhan yn weithredol yn y gweithgareddau ymarferol a’r gweithgareddau theori. Disgwylir i chi ymarfer eich sgiliau trwy gynllunio a chyflwyno sesiynau Pilates wrth gynnal agwedd broffesiynol a dangos cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid ardderchog drwy gydol y cwrs. Mae cwblhau pob asesiad, gan gynnwys tasgau ysgrifenedig ac arddangosiadau ymarferol yn hanfodol er mwyn dangos eich gwybodaeth a’ch gallu.
Mae cwblhau’r cwrs hwn yn agor y drws i gyfleoedd cyffrous fel Hyfforddwr Pilatescyflogedig neu hunan-gyflogedig. Hefyd, bydd gennych chi gyfle i symud eich sgiliau yn eu blaen trwy hyfforddiant pellach ar yr un lefel neu ar lefel uwch.
Y cymhwyster hwn yw’ch cam cyntaf tuag at yrfa wobrwyol yn y diwydiant ffitrwydd a lles.
I ymuno â’r cwrs hwn, dylech chi feddu ar ddiddordeb gwirioneddol ym maes ffitrwydd a lles, ynghyd ag ymrwymiad i ddysgu a datblygu eich sgiliau. Er nad oes unrhyw ofynion academaidd ffurfiol, bydd angen i chi feddu ar y gallu ffisegol i gymryd rhan mewn sesiynau Pilates ymarferol a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i weithio’n effeithiol gyda phobl eraill. Byddai profiad blaenorol o ymarfer corff grŵp neu ffitrwtdd grŵp yn ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol – brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu yw’r pethau pwysicaf.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i chi fodloni isafswm safonau diwydiant ar gyfer gweithio yn y rôl o’ch dewis. Mae wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i gymryd y cam cyntaf i mewn i gyflogaeth yn y sector ffitrwydd neu ehangu eich cwmpas ymarfer presennol trwy ychwanegu sgiliau a chyfleoedd newydd.