Yn gryno
A ydych chi erioed wedi codi carreg fach o’r traeth, wedi darganfod darn o wydr môr, wedi gweld gem led-werthfawr neu grisial ac wedi meddwl...rwy’n hoffi hwn ond beth wna i ag o? Peidiwch â’u cadw ar silff - trowch nhw yn ddarnau unigryw o emwaith wedi’u rhwymo â gwifrau!
...dechreuwyr pur sydd ddim wedi gwneud gemwaith o’r blaen
... unrhyw un sydd eisiau dysgu rhywbeth newydd
...pobl greadigol sy’n chwilio am hobi creadigol
Ymunwch â ni am gwrs 5 wythnos hwyliog ac ysbrydoledig. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau ar ffurf gweithdy, a fydd yn eich cyflwyno i hanfodion rhwymo â gwifrau. Unwaith bydd y wybodaeth a’r technegau sylfaenol gennych, byddwch yn cael eich annog i ddylunio a chreu eich darn eich hun o emwaith unigryw gan ddefnyddio’r trysorau rydych wedi eu darganfod.
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i feysydd allweddol gemwaith wedi’i rwymo â gwifrau:
- Hanfodion trin gwifren
- Gwehyddu gwifrau
- Rhwymo cerrig/gleiniau
Erbyn diwedd y cwrs, dylech deimlo'n ddigon hyderus i allu defnyddio'r technegau a ddysgoch i ymestyn eich taith greadigol gyda’ch gemwaith - eich dychymyg yn unig sy’n eich cyfyngu!
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Darperir yr holl offer angenrheidiol ynghyd â nifer gyfyngedig o wifrau ac ystod o leiniau/cerrig i ymarfer y technegau sylfaenol.
Bydd angen i chi brynu gwifrau a gleiniau/cerrig ychwanegol er mwyn cwblhau eich dyluniadau eich hun.