Yn gryno
Mae enw'r cwrs hwn, Gwaith Crosio i Ddechreuwyr, yn dweud y cwbl - mae wedi'i ddylunio ar gyfer dechreuwyr!
Unigolion creadigol brwd sy'n awyddus dysgu sgil newydd neu ddod o hyd i hobi creadigol.
Bydd y cwrs cyflwyniadol hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau a hyder ym mhwythau a thechnegau crochet sy'n ofynnol i wneud dillad ac eitemau addurniadol syml.
Gan ddefnyddio termau crochet yn seiliedig ar eirfa'r Unol Daleithiau, ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu:
- cadwynau
- pwythau crochet unigol, dwbl a threbl
- sut i ddarllen a dilyn patrymau crochet
- gwaith crochet cylchol
- rhesi a throi
- cynyddu a lleihau pwythau
Bydd bob sesiwn yn para am ddwy awr ac yn eich caniatáu chi i ymarfer y gwahanol bwythau a chynhyrchu darn o waith sylfaenol.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon.
Yn ystod wythnos un, cewch edau gwnïo trwchus a bachyn crochet 6mm. Bydd yr eitemau isod yn ofynnol ar gyfer gwersi dilynol ac yn cael eu trafod yn ystod y sesiynau:
- Bachau crochet o faint amrywiol
- Gwau dwbl ac edau drwchus mewn amrywiaeth o ddeunyddiau
- Nodwydd tapestri (neu gyfwerth) ar gyfer prosiectau gwnïo/gwehyddu tameidiau
Efallai y bydd rhaid prynu ychydig mwy o eitemau yn ystod y cwrs.