Yn gryno
Yn gryno Os ydych mewn swydd oruchwyliol ar safle, byddwch angen gallu helpu i gynllunio a threfnu iechyd a diogelwch ar y safle. Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r holl ddeddfwriaeth berthnasol ac agweddau eraill sy'n effeithio ar weithio'n ddiogel yn y diwydiannau adeiladu a pheirianneg sifil. Mae'n amlygu'r angen am asesiad risg yn y gweithle, rhoi'r mesurau rheoli angenrheidiol ar waith, a chyfathrebu addas er mwyn cynnal diwylliant iechyd a diogelwch ymysg y gweithlu.
Mae’r cwrs hwn yn eich darparu gyda’r wybodaeth a’r sgiliau sydd arnoch eu hangen, yn ogystal ag amlinellu’r cyfrifoldebau y mae’n ofynnol i chi eu cyflawni yn gyfreithiol.
…unrhyw un sydd wedi neu ar fin ymgymryd â chyfrifoldebau goruchwyliol
…eich cyflwyno i faterion iechyd and diogelwch, lles a’r amgylchedd
...datblygu dealltwriaeth o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n berthnasol i weithgareddau eich gwaith
Mae'r cwrs hanfodol 2-ddydd hwn yn cynnwys:
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Heriau safle penodol ar gyfer goruchwylwyr
- Sgyrsiau Blwch Offer Effeithiol
- Goruchwyliaeth iechyd galwedigaethol
- Diogelwch ymddygiad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol.
Ar ôl y cwrs, fe allech benderfynu symud ymlaen i’r Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS).