Yn gryno
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae’r diwydiant nwy domestig wedi’i reoleiddio’n gryf a chynhelir asesiadau dan y Cynllun Ardystio Achrededig (ACS). Mae Canolfan Nwy ACS y Coleg yn ganolfan BPEC gymeradwy sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n berffaith ar gyfer plymwyr profiadol. Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gofrestriad gyda Nwy Diogel.
…gall y rhai sydd wedi cwblhau rhaglen dysgu dan reolaeth berthnasol gyflwyno cais am gyllid Cyfrif Dysgu Personol ar gyfer Cwrs Cychwynnol Nwy ACS.
... unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
Mae’r Coleg yn cyflawni amrywiaeth eang o asesiadau. Mae tystysgrifau’n ddilys am bum mlynedd ac ar ôl hynny bydd angen ailasesu. I gwblhau’r asesiadau cychwynnol, mae’n rhaid i chi feddu ar -
- Dystysgrif i ddangos eich bod chi wedi cwblhau rhaglen dysgu dan reolaeth berthnasol (Sylwer bod yn rhaid i’ch tystysgrif Rhaglen Dysgu Dan Reolaeth gynnwys CCN1 ac o leiaf un o’r cyfarpar canlynol er mwyn caniatáu i chi ei sefyll) (neu)
- Rydych chi wedi meddu ar dystysgrif ACS yn flaenorol a daeth i ben dros 12 mis yn ôl felly mae angen i chi ailsefyll (neu)
- Rydych chi’n meddu ar dystysgrif ACS gyfredol a chofrestriad Nwy Diogel ac rydych chi’n dymuno ymestyn eich cwmpas
Byddwch yn cael eich asesu ar eich gallu i wneud gwaith nwy yn ddiogel yn yr adrannau canlynol:
- CCN1 – Diogelwch nwy domestig craidd, sy’n cynnwys CPA1 (dadansoddiad o berfformiad hylosgiad, nwy naturiol a nwy petrolewm hylifol)
Sylwer fod yn rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyflawni CCN1 cyn cwblhau asesiad ar y canlynol:
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi feddu ar gofrestriad Nwy Diogel ers 12 mis cyn ymestyn cwmpas eich cymwysterau os ydych chi’n cwblhau eich asesiad cychwynnol ar ôl Rhaglen Dysgu Dan Reolaeth. Gall hyn gael ei leihau os ydych chi’n cwblhau uned bontio Rhaglen Dysgu Dan Reolaeth.
- CENWAT – Gosod, cyfnewid, comisiynu, datgysylltu, gwasanaethu, atgyweirio a dadansoddi gwres canolog nwy domestig a boeleri a chylchredwyr dwr poeth, boeleri cyfunol, gwresogyddion dwr stôr a gwresogyddion dwr ebrwydd.
- CKR1 – Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, dadansoddi a chomisiynu dyfeisiadau coginio nwy domestig
- HTR1 - Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, dadansoddi a chomisiynu tannau nwy agored, cytbwys a ffan gyda ffliw a gwresogyddion wal domestig
- MET1 – Gosod, cyfnewid, tynnu a chomisiynu mesurydd nwy domestig
Byddwch hefyd yn gymwys i gwblhau'r cyrsiau arbenigol canlynol:
- CMDDA1 – Profi perfformiad carbon monocsid a hylosgi gan ddefnyddio dadansoddwyr nwy cludadwy electronigcludadwy electronig ac ymchwiliad manwl i’r offer .CONGLP1PD Newid nwy domestig i LGP domestig ar gyfer anheddau parhaol
CONGLP1LAV Newid nwy domestig i LGP domestig ar gyfer llety hamdden
CONGLP1RPH Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer cartrefi parciau preswyl
HTRLP2 Tannau nwy ffliw caeedig
I gofrestru ar gyfer y cwrs hwn bydd rhaid i chi gael naillai:
- Meddu ar dystysgrif i ddangos eich bod chi wedi cwblhau rhaglen dysgu dan reolaeth berthnasol (neu)
- Feddu ar dystysgrif ACS yn flaenorol a ddaeth i ben (os daeth i ben dros 12 mis y ôl bydd angen sefyll asesiad cychwynnol (neu)
- Rydych chi’n meddu ar dystysgrif ACS gyfredol a chofrestriad Nwy Diogel ac rydych chi’n dymuno ymestyn eich cwmpas
Fel rhan o broses cyflwyno cais BPEC bydd angen i ymgeiswyr ddarparu ffotograff pasbort a holl gopïau gwreiddiol o dystysgrifau sy’n berthnasol i’ch cais ar ddiwrnod yr hyfforddiant.
Mae ffioedd y cwrs fel a ganlyn:
Domestig
CCN1 Cychwynnol (asesiad yn unig)
£580
Y gost ar gyfer asesiad cychwynnol CENWAT1, CKR1, HTR1, MET1 fydd £130 fesul cyfarpar, a bydd yn cymryd 1/2 diwrnod ychwanegol fesul asesiad.
Gwnewch ymholiad ynglŷn â chost y cyrsiau arbenigol.