Yn gryno
Yn cael ei gydnabod fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth, bydd y cwrs blwyddyn hwn yn rhoi i chi cymhwyster cysylltiedig â gwaith, arbenigol iawn mewn Peirianneg Drydanol, a'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith yn y sector hwnnw.
...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant peirianneg drydanol.
Bydd angen i chi gael dealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth i ddylunio cylchedau, adeiladu a chanfod diffygion, yn ogystal ag ymrwymiad llawn i fynychu a gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.
Mae'r cwrs ei hun yn cynnwys prosiectau ac aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau ymarferol yn y gweithdy/labordy, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau, ymweliadau â chwmnïau a siaradwyr gwadd o'r diwydiant.
Ymhlith y pynciau y byddwch yn ymdrin â nhw mae:
- Dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch peirianneg
- Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg
- Egwyddorion dyfeisiau a chylchedau electronig a'u defnydd
- Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau (a fydd yn cael eu graddio ar lefel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth), adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio cyn ennill Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (90 credyd), y gallech wedi hynny fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol/Electronig yn Coleg Gwent, Prentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys C mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall (yn ddelfrydol mewn Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu gymhwyster Lefel 2 priodol gyda phroffil Teilyngdod.
Ystyrir dysgwyr hyn ar sail cymwysterau mynediad a/neu eich profiad.
Os ydych yn dilyn Prentisiaeth ffurfiol, mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cwrs ychwanegol i gwblhau'r sgiliau hanfodol sy'n ofynnol.