• Dysgu Agored/o Bell

Prentisiaeth - Brickio Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell

Yn gryno

Mae prentisiaeth mewn Gosod Brics yn gwrs 3½ blynedd lle rydych chi'n gyflogedig gan gwmni gosod brics neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos.

Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau gosod brics. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu bricwyr cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad fel y gallwch osod brics a blociau eich hun. Byddwch yn cael eich asesu ar y safle yn gwneud amrywiaeth o dasgau gosod brics ar ddiwedd y cwrs. Dyma'r "Prosiect Ymarferol Terfynol" lle bydd asesydd o'r coleg yn ymweld a chi am nifer o ddyddiau i gadarnhau eich cymhwysedd.

Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin a phynciau penodol, yn ogystal a sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf
Gwersi damcaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth â chyfarpar da
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial 1:1 a grŵp
Sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.

Isafswm o ddau TGAU gradd A* i D mewn Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg
neu

Dylech fod wedi cyflawni cymhwyster ol-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu.
a

meddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ol gadael addysg orfodol
a

Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.

Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.

Female Construction student

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
AWBL0617AA
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

June 2026 College Open Evening

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

August 2026 Higher Education Open Event

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
TBC
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy