Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol yn gwrs 18 mis lle rydych chi'n cael eich cyflogi. Nid ydych chi'n mynychu'r coleg.
Mae'r Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo yn cwmpasu gwestai, bwytai, tafarndai, caffis, arlwyo contract a gwasanaethau lletygarwch. Ar Lefel 3 mae'r llwybr Coginio Proffesiynol wedi'i gynllunio i roi sgiliau i unigolion weithio fel Prif Gogydd neu Uwch Gogydd.
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori
Mae angen cymwysterau Lefel 2 ac mae profiad mewn coginio proffesiynol yn ddymunol.
Rhaid i brentisiaid gael cyflogwr a all fodloni meini prawf NVQ.
Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cwblheir Diploma NVQ Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a Thystysgrif Lefel 3 mewn Egwyddorion Lletygarwch ac Arlwyo yn y gweithle.