Yn gryno
Ydych chi'n mwynhau dysgu a siarad Sbaeneg?
Yn naturiol mae ein cwrs Sbaeneg Safon Uwch yn adeiladu ar eich sgiliau llafar Sbaeneg, gwrando, darllen ac ysgrifennu yr enillasoch ar lefel TGAU, ac yn eu datblygu fel eich bod chi'n ennill gwybodaeth dda o'r iaith a’r diwylliant Sbaenaidd.
... Rydych yn mwynhau dysgu a siarad ieithoedd tramor modern
... Rydych eisiau datblygu eich sgiliau Sbaeneg
... Rydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch i astudio Sbaeneg
... Hoffech yrfa gydag ieithoedd tramor
Yn ystod eich cwrs Safon Uwch Sbaeneg, byddwch yn darllen deunyddiau dilys a gymerwyd o destunau a'r rhyngrwyd ac yn gwrando ar glipiau o siaradwyr brodorol i ddatblygu eich sgiliau.
Mae pwyslais pwysig hefyd ar waith llafar a bydd gofyn i chi fynychu dosbarthiadau sgwrsio gyda Chynorthwy-ydd Sbaenaidd.
Lefel UG:
Bydd yr holl waith iaith ar gyfer UG yn seiliedig ar y themâu canlynol yn ogystal ag astudio'r ffilm ‘Volver’:
- Thema 1: Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas Sbaeneg
- Thema 2: Deall y byd Sbaeneg
Safon Uwch:
Byddwch yn archwilio'r themâu canlynol ar lefel UG:
- Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaeth
- Thema 4: Y ddwy Sbaen: 1936 ymlaen
Bydd myfyrwyr UG hefyd yn astudio llythrennedd ac yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol.
Cewch eich asesu drwy:
- U2 Uned 1 - Arholiad llafar (12-15 munud), 2 dasg sy'n seiliedig ar symbyliad
- U2 Uned 2 - Gwrando, darllen ac ysgrifennu (2 awr 30 munud)
- Lefel Uwch (60% o'r cymhwyster)
- U2 Uned 3 - Arholiad llafar (12 munud) prosiect ymchwil annibynnol gyda chyflwyniad a thrafodaeth
- U2 Uned 4 - Gwrando, darllen a chyfieithu (1 awr 45 munud)
- U2 Uned 5 - Ymateb beirniadol a dadansoddol ar bapur (llyfr caeëdig) (1 awr 30 munud)
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Sbaeneg Lefel UG
- Sbaeneg Safon Uwch
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, a Gradd B mewn Sbaeneg.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Ar ôl ichi gwblhau eich Safon Uwch mewn Sbaeneg, byddwch yn medru gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, neu gallwch ddilyn astudiaethau pellach yn y brifysgol ar draws ystod o gyrsiau addysg uwch mewn Sbaeneg.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gradd B mewn Sbaeneg.
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.
Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i'w ddysgwyr Lefel A ac UG ac mae'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ar draws Gwent yn gallu cyrchu pynciau sy'n hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau lle, mae Sbaeneg a Ffrangeg yn cale e cynig ar ein Campws Crosskeys a chynigir Cymraeg ar ein campysau Crosskeys a Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o'n campysau. Os yw eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran dderbyn i gael mwy o wybodaeth.