• Llawn Amser
  • Lefel 3

Agored Cymru Mynediad i AU - Dyniaethol a Wyddor Cymdeithas Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Mynediad i Addysg Uwch
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Os nad oes gennych gymwysterau ffurfiol bydd y cwrs hwn yn cynnig llwybr carlam at addysg uwch mewn pynciau dyniaethol neu wyddor cymdeithas.

...Hoffech wneud cwrs gradd yn y maes hwn
...Ydych eisiau symud ymlaen at eich cwrs gradd yn gynt
...Oes gennych ddiddordeb brwd yn y dyniaethau a gwyddor cymdeithas

Bydd gennych brofiad bywyd y tu hwnt i addysg orfodol ar ôl bod allan o addysg orfodol am ddwy flynedd neud fwy. Amcan y cwrs yw darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i ddatblygu eich gallu a'ch paratoi chi ar gyfer astudio ar lefel brifysgol, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ennill graddau a dyfarniadau eraill.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau megis cymdeithaseg, seicoleg, hanes a llenyddiaeth Saesneg. Byddwch hefyd yn astudio unedau sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, rhifedd a TGCh.

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych eisiau symud ymlaen at addysg uwch mewn pynciau dyniaethol neu wyddor cymdeithas megis y gyfraith, cymdeithaseg, seicoleg, hanes, llenyddiaeth Saesneg, athroniaeth, gwaith cymdeithasol etc. Mae cymwysterau ar lefel gradd yn y meysydd hyn yn gallu arwain at gyflogaeth mewn meysydd megis addysgu, gwaith cymdeithasol, seicotherapi, gwaith ieuenctid, llywodraeth leol, adnoddau dynol, yr heddlu, proffesiynau cyfreithiol megis cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, newyddiaduraeth ac ymchwil gymdeithasol.

Nid oes angen cymwysterau academaidd ffurfiol. Fodd bynnag, mae'r cwrs y gofyn am lefel sylweddol o ymroddiad a chaiff myfyrwyr arfaethedig eu hasesu cyn cael cynnig lle. Byddwch angen lefel o fathemateg (at lefel 1 o leiaf) a Saesneg (lefel 2 o leiaf) ar gyfer y cwrs hwn. Mae TGAU gradd C mewn Saesneg yn ddymunol.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs. Mae'n rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn ennill y cymhwyster.

Addysg uwch mewn meysydd megis Saesneg, hanes, cyfraith, cymdeithaseg, seicoleg a hyfforddant athrawon, neu gyflogaeth.

Mae hwn yn gwrs paratoadol ar gyfer prifysgol ac mae lefel uchel o ymrwymiad yn hanfodol. Rydym yn adolygu pob cais yn ofalus ar sail unigol, ac felly rydym yn gofyn i unigolion fynychu sesiwn gyfweld. Ar gyfer mynediad, bydd angen i chi ddangos sgiliau rhyngbersonol da, ymrwymiad i'r maes astudiaeth a brwdfrydedd a dealltwriaeth o'ch llwybr gyrfa dewisol. Byddwch angen TGAU gradd A* - C (neu sgiliau cyfatebol) mewn Saesneg Iaith neu Fathemateg.

Rhaid i ddysgwyr arfaethedig gael eu hasesu cyn cael cynnig lle. Byddwch angen lefel o fathemateg (at lefel 1 o leiaf) a Saesneg (lefel 2 o leiaf) ar gyfer y cwrs hwn.

Gan fod y cwrs wedi cael ei ddylunio ar gyfer yr unigolion sydd â phrofiad bywyd, nid yw'n addas ar gyfer ymgeiswyr sydd o dan 19 oed.

 

 

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd basio asesiad cychwynnol fel rhan o'r gofynion mynediad.

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFAC0027AA
Amser Dechrau
09:15
Hyd
1 flwyddyn
Amser Gorffen
16:15
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Friday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy