Yn gryno
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu sgiliau cyflogadwyedd, dyma'r cwrs i chi. Bydd y rhaglen lefel mynediad hon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr, gan baratoi unigolion i ymuno â'r Rhaglen Interniaeth/lleoliad gwaith. Mae hwn yn gwrs paratoi 1 flwyddyn.
... Mae gennych ddiddordeb mewn chwilio am leoliad gwaith
... Rydych yn dymuno datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd
... Rydych eisiau ymrestru ar Leoliad Gwaith/rhaglen Interniaeth yn y dyfodol
Bydd dysgwyr yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol a damcaniaethol i ddatblygu a gwella sgiliau cyflogadwyedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr i gamu i fyd gwaith.
Meysydd dan sylw:
- Menter a datrys problemau
- Gwaith tîm a chydweithio
- Proffesiynoldeb a moeseg gwaith
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
- Sgiliau rhifedd
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Mae parodrwydd i gymryd rhan lawn ym mhob sesiwn a gweithgaredd yn hanfodol. Rhaid i ddysgwyr fod ag awydd i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a mynychu profiad gwaith.
Dilyniant i'r Rhaglen Interniaeth neu Baratoi ar gyfer Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Rydym yn disgwyl gweld parch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant ym mhob un o’n dysgwyr.