Yn gryno
Mae hon yn rhaglen lefel mynediad sydd wedi ei dylunio ar gyfer dysgwyr ble gallai amgylchedd dosbarth nodweddiadol fod yn heriol iddynt. Mae'n gwrs cyflwyniadol i gwmpasu anghenion unigol bob dysgwr, gan ddarparu amgylchedd diogel iddynt astudio ynddo, cyn symud ymlaen at gyrsiau Lefel 1.
...Ydych eisiau profiad o fywyd yn y coleg.
...Rydych eisiau gwella eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.
...Rydych angen cyfle i wella eich sgiliau gwaith a bywyd wrth benderfynu ar lwybr eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os nad oes gennych unrhyw gymwysterau ffurfiol ac yn chwilio am gwrs lefel mynediad.
Mae'r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau ymarferol megis coginio, garddwriaeth, iechyd a hamdden, TGCh, a manwerthu er mwyn gwella sgiliau gwaith a bywyd pob myfyriwr.
Bydd dysgwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o bynciau i weithio arnynt, yn dibynnu ar eu hanghenion dysgu. Byddant yn gweithio i gyflawni tystysgrif estynedig neu ddyfarniad mewn Astudiaethau Galwedigaethol BTEC Lefel 3, yn ogystal â Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Meysydd dan sylw:
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd
- Sgiliau Cyflogadwyedd
- Prosiectau yn cwmpasu sgiliau meddal megis adeiladu hyder, perthnasau, presenoldeb a chynhwysiad.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd yn rhaid i chi ddangos parodrwydd i gymryd rhan ym mhob sesiwn a gweithgaredd.
Ymroddiad llawn at bresenoldeb a pharch tuag at eraill yw'r nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn o’n dysgwyr ar y cwrs hwn.
Mae pob asesiad ar sail aseiniad.
Cyrsiau galwedigaethol Lefel 1, cyrsiau addysg neu gyrsiau hyfforddiant eraill, neu gyflogaeth a gefnogir.
Nid oes gofyn am gymwysterau ffurfiol.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli gyda'r gymuned. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael tiwtorialau wythnosol ac mae cymorth ar gael i ateb anghenion yr unigolyn a'u helpu nhw i ffynnu yn ystod eu hamser yn y coleg. Byddwch yn cael eich dysgu mewn grwp bach, ac mae staff cefnogi yn gweithio'n agos gyda dysgwyr i annog hyder, hunan barch a sgiliau gwerthfawr eraill.