En

BPEC Systemau Storio Dwr Poeth Domestig (Heb eu hawyru)

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo plymwyr a pheirianwyr gwresogi sydd eisiau gosod Systemau Storio Dwr Poeth Domestig Wedi eu Hawyru a Heb eu Hwyru i gydymffurfio â'r Safonau a Rheoliadau Adeiladu priodol.

Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o asesiadau, cyrsiau hyfforddi, deunyddiau dysgu a chymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan ddiwydiannau.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs hynod gynhwysfawr hwn yn dechrau gyda hyfforddiant dwys yn y pedwar modiwl, cyn cwblhau tri asesiad, gan gynnwys un asesiad ymarferol. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr lwyddo yn y tri asesiad er mwyn cyflawni'r dystysgrif BPEC mewn Systemau Storio Dwr Poeth Domestig a'r cerdyn cymhwysedd.

Y pedwar modiwl hyfforddi yw:

  • Systemau wedi'u Hawyru a heb eu Hawyru a'u hegwyddorion gweithredu
  • Dylunio a gosod
  • Cynnal a Chadw
  • Cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu eraill

Fel arfer, mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a damcaniaethol.

Gofynion Mynediad

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster crefft a gydnabyddir (e.e. NVQ/SNVQ Lefel 2 neu 3 mewn Plymio a Gwresogi neu Wresogi Domestig) NEU fod yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath NEU fod â thystiolaeth o nifer o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant plymio neu wresogi.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae tystysgrif yn ddilys am 5 mlynedd fel arfer. Mae ymgeiswyr yn gymwys am ailasesiad o fewn 12 mis ar ôl i'r dystysgrif ddod i ben. Rhaid cyflwyno tystysgrifau blaenorol i'r ganolfan asesu fel prawf o feddu ar y cymhwyster gwreiddiol.

Os ydych yn penderfynu peidio ymuno â chynllun Personau Cymwys, bydd angen ichi roi gwybod i'r adran Rheoli Adeiladu leol. 

Os caiff ei gwblhau y tu allan i Gyfrif Dysgu Personol, cost y cwrs hwn fydd £375 yr ymgeisydd.

Ble alla i astudio BPEC Systemau Storio Dwr Poeth Domestig (Heb eu hawyru)?

MPLA0038AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.