Yn gryno
Cyflwynir ein Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) Peirianneg Fecanyddol Lefel 5 ar y cyd â Phrifysgol De Cymru (PDC), a byddwch yn graddio o’r brifysgol hon ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector. Mae'r cwrs, sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, hefyd yn caniatáu astudio pellach ar lefel gradd a thu hwnt.
...y rheiny sydd eisiau gyrfa mewn Peirianneg, Dylunio, Gweithgynhyrchu neu Gynnal a Chadw
...yn datrys problemau’n dda
...y rheiny sydd eisiau cyflawni statws peiriannydd siartredig
...myfyrwyr sydd eisiau dod yn Beiriannydd Mecanyddol cymwys neu gymryd y camau nesaf o fewn y diwydiant hwn
...y rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u harbenigedd mewn Peirianneg Fecanyddol
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd a Phrifysgol De Cymru, felly, byddwch yn cael defnyddio holl gyfleusterau’r brifysgol, yn cynnwys llyfrgelloedd, campfeydd ac ati, a byddwch yn cael eich addysgu yn unol â safonau Prifysgol De Cymru gan ddarlithwyr sydd â PhD neu raddau Meistr yn y pynciau; Fodd bynnag, byddwch yn talu llawer iawn llai a chewch aros yn agos i le rydych yn byw neu’n gweithio
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd a Phrifysgol De Cymru, felly, byddwch yn cael defnyddio holl gyfleusterau’r brifysgol, yn cynnwys llyfrgelloedd, campfeydd ac ati, a byddwch yn cael eich addysgu yn unol â safonau Prifysgol De Cymru gan ddarlithwyr sydd â PhD neu raddau Meistr yn y pynciau; Fodd bynnag, byddwch yn talu llawer iawn llai a chewch aros yn agos i le rydych yn byw neu’n gweithio.
Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion diwydiant. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith.
Ceir cymysgedd o sesiynau damcaniaethol ac ymarferol ar y cwrs hwn. Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:
Blwyddyn 1
- Thermohylifau 2
- Cynllunio Peirianneg Gynaliadwy
- Hanfodion Rheoli a Pheirianneg Busnes
Blwyddyn 2
- Systemau Rheoli ac Offeryniaeth
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 2
- Prosesau Cynhyrchu
We consider each applicant on an individual
basis, and you may receive an offer based
on qualifications and personal profile, but
normally you would need at least one of the
following:
HNC Mechanical Engineering or equivalent level
4 qualification
DD at A level
DE degrees at A level, and a C grade in the
Bagloriaeth Cymru
Access to Higher Education where you have
obtained a Pass Diploma with 45 Passes
In addition to: Passes in three GCSE subjects
at grade C or above, including Mathematics
and English Language (or equivalent).
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol megis hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth o gwsmeriaid busnes, datrys problemau, cyfathrebu, rhifedd, ac agwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunan, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.