Yn gryno
Mae ein HNC Peirianneg Drydanol Lefel 4 yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru (PDC) a byddwch yn cael eich graddio o Brifysgol De Cymru ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus.
...ennill gyrfa mewn Peirianneg Drydanol
...rheiny sy’n ffafrio cyrsiau galwedigaethol, ymarferol
...unrhyw un sydd yn dymuno astudio ymhellach ym maes peirianneg
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector Peirianneg
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector. Mae'r cwrs, sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, hefyd yn caniatáu astudio pellach ar lefel gradd a thu hwnt.
Mae ein cyrsiau HNC Peirianneg yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector. Mae'r cwrs, sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, hefyd yn caniatáu astudio pellach ar lefel gradd a thu hwnt.
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector
Mae'r cwrs yn darparu sylfaen drwyadl i’r cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol gan y sector.
Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:
Blwyddyn 1
- Egwyddorion Trydanol
- Mathemateg Peirianneg
- Cymwysiadau Trydanol
Blwyddyn 2
- Roboteg a PLCs
- Peiriannau Trydanol
- Systemau Analog a Digidol
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy waith cwrs ac arholiad
Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
CC ar Lefel A
Graddau CC ar Lefel A ac C ym Magloriaeth Cymru
Mynediad i AU lle rydych wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 pas mewn cefndir Peirianneg
Hefyd: Llwyddiannau TGAU mewn tri phwnc gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Gallwch fynd ymlaen i HND Peirianneg neu Radd Sylfaen berthnasol
Mae cyfleoedd cyflogaeth mewn llu o sefydliadau, o fusnesau rhyngwladol i gwmnïau lleol. Mae nifer o opsiynau gyrfa cyffrous, gan gynnwys:
- Peiriannydd Darlledu
- Peiriannydd Trydanol
- Peiriannydd Rheoli ac Offeryniaeth
- Peiriannydd Electroneg
- Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu