Yn gryno
Dyma raglen Tystysgrif Cenedlaethol Uwch alwedigaethol arbenigol gyda phwyslais cryf ar y cysylltiad â byd gwaith. Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr
...ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg
...yw'n well gennych gyrsiau galwedigaethol, ymarfero
...ydych yn rhifog, yn greadigol ac yn gallu cymell eich hun
Mae'r cwrs yn darparu sylfaen drwyadl i’r cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol gan y sector.
Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:
-
Mathemateg Peirianneg 1
- Dylunio a Gweithgynhyrchu
-
Gwyddoniaeth Fecanyddol 1
-
Thermohylifau 1
-
Technegau Peirianneg Proffesiynol
-
Systemau Mesur
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol ac fe’ch asesir trwy waith cwrs ac arholiadau
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
-
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
-
DD at A Level
-
DE grades at A Level plus C in Welsh Baccalaureate
-
Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech fynd yn eich blaen i weithio yn un o'r meysydd awyrenneg, modurol neu gyfansoddion, a meysydd peirianneg cysylltiedig. Gallech hefyd fynd ymlaen i astudio ymhellach, drwy wneud yr HND neu un o'r graddau peirianneg.
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
-
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
-
DD at A Level
-
DE grades at A Level plus C in Welsh Baccalaureate
-
Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.
O 2025, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn ein canolfan HIVE newydd. Mae'r adeilad gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer darpar beirianwyr.