Yn gryno
Cafodd yr Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC) Peirianneg Fecanyddol Lefel 4 ei gynllunio mewn ymgynghoriad â'r diwydiant gyda’r bwriad o gysylltu â'r diwydiant lleol cymaint â phosibl, yn ei gyd-destun yn ogystal ag yn y dull mynychu.
Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion y byd gwaith. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, yn ogystal â chaniatáu astudiaeth bellach ar lefel gradd a thu hwnt.
Cyflwynir ein Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 4 ar y cyd â Prifysgol De Cymru (mae angen dilysu hyn) a byddwch yn graddio o’r brifysgol honno ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus.
… y rhai sydd am gael gyrfa ym meysydd Peirianneg, Dylunio, Gweithgynhyrchu neu Gynnal a Chadw
… myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dylunio a gweithgynhyrchu peiriannau gwres, systemau electronig-niwmatig a hydrolig, peiriannau jet, cerbydau modur, rocedi ac awyrennau
… myfyrwyr sy'n well ganddynt gyrsiau galwedigaethol ac ymarferol
… unigolion sydd â sgiliau rhifedd da ac sy’n greadigol a llawn hunan-gymhelliant
Mae'r cwrs yn darparu sylfaen drwyadl i’r cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol gan y sector.
Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:
Blwyddyn 1
- Peirianneg Mathemateg (byddwch yn dysgu'r sgiliau mathemategol sydd eu hangen i ddatrys problemau peirianneg a deall perthnasedd mathemateg mewn peirianneg)
- Technegau Peirianneg Proffesiynol (Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â'r sgiliau allweddol a fydd yn darparu sylfaen ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol yn y dyfodol)
- Thermohylifau 1 (Byddwch yn cael dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau thermodynamig a mecanig hylifol hylifau a nwyon a sail ar gyfer astudiaeth uwch)
Blwyddyn 2
- Gwyddor Fecanyddol 1 (Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg ym meysydd statig a deinamig ac yn ymchwilio i nifer o brif egwyddorion gwyddonol)
- Systemau Mesur (Byddwch yn dysgu nodi a dewis synwyryddion ar gyfer mesur peirianyddol a dylunio cylchedwaith prosesu signal sylfaenol
- Dylunio a Gweithgynhyrchu (Byddwch yn ennill gwybodaeth mewn dylunio peirianneg, gweithgynhyrchu a deunyddiau i ennill sgiliau sylfaenol mewn ymarfer gweithgynhyrchu
Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i HND Lefel 5 mewn Peirianneg Fecanyddol neu flwyddyn gyntaf/ail flwyddyn rhaglen gradd prifysgol.
Neu, gallech chi symud i gyflogaeth mewn peirianneg awyrofod, peirianneg fodurol, neu beirianneg gyfansawdd a meysydd peirianneg cysylltiedig.
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
-
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
-
DD a A lefel
-
Graddau DE ar lefel Safon Uwch ynghyd â gradd C yn y Fagloriaeth Gymraeg
-
Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.
O 2025, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn ein canolfan HIVE newydd. Mae'r adeilad gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer darpar beirianwyr.
