Yn gryno
Mae'n bosib bod unigolion sy'n derbyn gofal angen bwyta deiet gydag ansawdd y bwyd wedi'i addasu oherwydd eu bod yn gyffredinol wael, a hynny drwy ddewis personol neu oherwydd bod ganddynt anawsterau llyncu - a heb gyfaddawdu ar urddas na dewis person.
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i gogyddion, timau arlwyo, gofalwyr tai, rheolwyr cartrefi gofal, gofalwyr, nyrsys cofrestredig neu unrhyw un a allai fod yn ymwneud a pharatoi, coginio a darparu bwyd i breswylwyr sydd mewn peryg.
Gall dysgwyr ddisgwyl cwmpasu amrywiaeth o theorïau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad i hyfforddiant a mentora. Mae'r Unedau'n cynnwys:
• Diffinio beth yw deiet sydd wedi'i addasu.
• Disgrifio’r gwahanol lefelau o fwydydd sydd wedi'u haddasu.
• Trafod sut i wneud bwydydd sydd wedi'u haddasu yn flasus ac yn faethlon.
• Adnabod enghreifftiau o fwyd sy'n ddiogel i'w haddasu.
• Egluro hylendid diogel wrth baratoi bwydydd sy'n cael eu haddasu.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
This is a half day course. A formal quote can be issued once we understand your training need but as a guide, we charge £295 (includes all costs).