Yn gryno
Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod bod diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb ar bawb sy'n ymwneud â storio, paratoi, gwasanaeth coginio a thrin bwyd. Mae ei phynciau yn cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy'n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.
Amcan y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth fel rhywun sy’n trin bwyd ac sy'n gweithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu, neu sy’n cefnogi rôl yn y gweithle.
Mae'r pynciau ar y cymhwyster 7 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
Pa mor bwysig yw hi i’r sawl sy’n trin bwyd gadw eu hunain yn lân ac yn hylan.
Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn hylan.
-Pwysigrwydd cadw cynnyrch bwyd yn ddiogel.
- gwyddorion diogelwch bwyd.
Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
This is a one-day course. A formal quote can be issued once we understand your training need but as a guide, we charge £585 (includes all training, feedback and marking) plus additional awarding body fees (circa £14 per learner).