• Llawn Amser
  • Lefel 3

City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw, Gosodiadau a Chomisiynu Peirianneg Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3

Yn gryno

Mae’r cwrs Lefel 3 hwn, sydd wedi’i achredu gan City & Guilds, yn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ar Lefel 2. Mae’n berffaith ar gyfer technegwyr cynnal a chadw mewn amgylcheddoedd peirianneg neu’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes hwn.

Rydych chi’n rhan o waith cynnal a chadw cyfarpar peiriannol mewn amgylcheddoedd peirianneg, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys ymchwilio i wallau ac atgyweirio mecanweithiau a systemau hydrolig a niwmatig.

Byddwch chi’n dysgu am:

  • Iechyd a diogelwch yn y maes Peirianneg
  • Egwyddorion dyfeisiau a chylchedau electronig a'u defnydd
  • Egwyddorion cynnal a chadw, gosodiadau a chomisiynu peirianneg
  • Cynnal a chadw systemau peiriannau
  • Cynnal a chadw systemau hydrolig
  • Cynnal a chadw systemau niwmatig

Disgwylir y bydd gennych chi feddylfryd peiriannydd proffesiynol yn yr amgylchedd dysgu. Disgwylir i chi weithio’n ddiogel a meddu ar agwedd frwd at ddatrys problemau a dysgu.

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallech chi symud ymlaen i ddiwydiant neu gwrs HNC (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

Cymhwyster Lefel 2 City and Guilds mewn mecanwaith sydd, yn ddelfrydol, wedi ymdrin â chynnwys hydrolig a niwmatig. Neu, brofiad digonol mewn diwydiant a sgiliau i adeiladu arnynt (i’w cytuno arnynt fel gofyniad mynediad cymwys gan arweinydd y cwrs). Ymgeisiwch

Bydd gofyniad i chi wisgo cyfarpar diogelu personol ar gyfer pob agwedd ymarferol ar eich cwrs yn ystod amgylchedd y gweithdy.

Engineering student smiling

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0629AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy