Yn gryno
Mae’r cwrs Lefel 3 hwn, sydd wedi’i achredu gan City & Guilds, yn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ar Lefel 2. Mae’n berffaith ar gyfer technegwyr cynnal a chadw mewn amgylcheddoedd peirianneg neu’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes hwn.
Rydych chi’n rhan o waith cynnal a chadw cyfarpar peiriannol mewn amgylcheddoedd peirianneg, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys ymchwilio i wallau ac atgyweirio mecanweithiau a systemau hydrolig a niwmatig.
Byddwch chi’n dysgu am:
- Iechyd a diogelwch yn y maes Peirianneg
- Egwyddorion dyfeisiau a chylchedau electronig a'u defnydd
- Egwyddorion cynnal a chadw, gosodiadau a chomisiynu peirianneg
- Cynnal a chadw systemau peiriannau
- Cynnal a chadw systemau hydrolig
- Cynnal a chadw systemau niwmatig
Disgwylir y bydd gennych chi feddylfryd peiriannydd proffesiynol yn yr amgylchedd dysgu. Disgwylir i chi weithio’n ddiogel a meddu ar agwedd frwd at ddatrys problemau a dysgu.
Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallech chi symud ymlaen i ddiwydiant neu gwrs HNC (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Cymhwyster Lefel 2 City and Guilds mewn mecanwaith sydd, yn ddelfrydol, wedi ymdrin â chynnwys hydrolig a niwmatig. Neu, brofiad digonol mewn diwydiant a sgiliau i adeiladu arnynt (i’w cytuno arnynt fel gofyniad mynediad cymwys gan arweinydd y cwrs). Ymgeisiwch
Bydd gofyniad i chi wisgo cyfarpar diogelu personol ar gyfer pob agwedd ymarferol ar eich cwrs yn ystod amgylchedd y gweithdy.