Yn gryno
Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn - ac os yw gweithio mewn rôl gefnogi yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i ddysgwyr o'r wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gefnogaeth arbenigol, gan gynnwys: cynllunio; gweithredu ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â'r athro/athrawes; cefnogaeth ddwyieithog; cefnogaeth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
...ydych eisiau gweithio gyda phlant neu bobl ifanc mewn sefyllfa ddosbarth
...ydych eisiau bod yn gynorthwyydd dosbarth neu gynorthwyydd cymorth dysgu
Mae'r cwrs yn cydnabod y gwaith cefnogi hanfodol sy'n digwydd mewn ysgolion a cholegau, ac mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo cynnydd a throsglwyddo ledled y gweithlu plant mewn ysgolion a cholegau.
Byddwch yn cwblhau 16 uned orfodol yn ystod y flwyddyn. Bydd rhai'n cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a bydd angen aseiniad ysgrifenedig ar gyfer y rhan fwyaf o'ch unedau i ddangos eich dealltwriaeth o'r testun.
Bydd disgwyl ichi ennill profiad ymarferol o weithio mewn swyddogaethau sy'n cefnogi addysg disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu ADY, yn ogystal â cholegau, am 2 ddiwrnod yr wythnos, fel gweithiwr neu wirfoddolwr.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal.
Yn dilyn y cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i gyflogaeth mewn swyddogaethau megis cynorthwyydd dosbarth neu gynorthwyydd cymorth dysgu.
4 x cymhwyster TGAU, gradd C ac uwch, neu gwrs Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu neu gymhwyster CCPLD Lefel 2.
Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y canlyniadau dysgu a meddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau'r cwrs. Os nad oes gennych y cymwysterau uchod ond bod gennych brofiad helaeth o weithio ym myd addysg, gallwn drafod eich opsiynau yn ystod y cyfweliad mynediad.
Cynhelir cyfweliad mynediad gydag Arweinyddion y Cwrs i egluro hyn ar gyfer cwrs Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 3 i sicrhau eich bod chi’n astudio ar y cwrs cywir.
Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol.