En

NCFE/CACHE Diploma Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Yn gryno

Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn - ac os yw gweithio mewn rôl gefnogi yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i ddysgwyr o'r wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gefnogaeth arbenigol, gan gynnwys: cynllunio; gweithredu ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â'r athro/athrawes; cefnogaeth ddwyieithog; cefnogaeth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.

Bydd disgwyl ichi ennill profiad ymarferol o weithio mewn swyddogaethau sy'n cefnogi addysg disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig, yn ogystal â cholegau, am o leiaf un diwrnod yr wythnos, fel cyflogai neu wirfoddolwr. Os ydych yn astudio'n rhan-amser, mae'n bwysig eich bod yn trefnu eich lleoliad cyn cofrestru.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau gweithio gyda phlant neu bobl ifanc mewn sefyllfa ddosbarth

...ydych eisiau bod yn gynorthwyydd dosbarth neu gynorthwyydd cymorth dysgu

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs yn cydnabod y gwaith cefnogi hanfodol sy'n digwydd mewn ysgolion a cholegau, ac mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo cynnydd a throsglwyddo ledled y gweithlu plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch yn cwblhau 16 uned orfodol yn ystod y flwyddyn; 7 uned gwybodaeth yn unig a 9 uned yn gyfuniad o wybodaeth ac ymarfer. Bydd rhai'n cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a byddwch yn cwblhau aseiniadau ysgrifenedig ar gyfer y mwyafrif o'r unedau.

Bydd bob uned yn cael ei hasesu ar wahân drwy amrywiaeth o ddulliau asesu.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond mae CACHE yn argymell y dylai fod gennych y canlynol er mwyn gallu ymdopi â gofynion y cymhwyster: 5 TGAU gradd C neu gyfwerth, neu gymhwyster galwedigaethol Gofal Lefel 1.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Yn dilyn y cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i gyflogaeth mewn swyddogaethau megis cynorthwyydd dosbarth neu gynorthwyydd cymorth dysgu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol.

Ble alla i astudio NCFE/CACHE Diploma Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3?

NPDI0600AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr