Yn gryno
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i dylino ar lefel sylfaenol ar feinwe nad yw’n batholegol, efallai fel atodiad at hyfforddiant personol neu sesiwn yn y gampfa.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddarparu tylino er mwyn paratoi ac adfer ar ôl gweithgareddau caled.
Mae hefyd yn bodloni’r gofyniad cyn-mynediad ar gyfer Tystysgrif Lefel 4 newydd YMCA mewn Therapi Tylino Chwaraeon (Camweithrediad Meinwe Meddal), yr unig gymhwyster sydd wedi’i fapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer mynediad i SMA ar gyfer aelodaeth fel therapydd tylino chwaraeon.
...Gweithwyr proffesiynol ffitrwydd cymwysedig
… Unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa fel therapydd tylino chwaraeon.
I ennill Diploma YMCA Lefel 3 mewn Tylino Perfformiad, bydd angen i chi gyflawni 8 uned orfodol:
- Hanfodion anatomeg a ffisioleg (M/650/4982)
- Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth o iechyd (K/616/7949)
- Anatomeg a ffisioleg bellach ar gyfer tylino perfformiad (L/650/1361)
- Ymarfer tylino proffesiynol (M/650/1362)
- Egwyddorion camweithrediad meinwe feddal (A/650/6136)
- Asesu cleientiaid a chynllunio triniaeth (R/650/1363)
- Defnyddio tylino perfformiad (Y/650/1365)
- Darparu cyngor gofal ar ôl triniaeth (T/650/1364)
Nid oes unrhyw ragofynion ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dechrau ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Perfformiad.
- Rydych yn 16+
- Rydych yn digon heini
- Mae gennych chi sgiliau cyfarthrebu sylfaenol
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i gefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn diwydiant ar hyn o bryd neu’r rhai sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol ymhellach. Mae’r dull cyflenwi’n cyfuno sesiynau ymarferol ar y campws â dysgu cyfunol hyblyg gan eich galluogi chi i ddatblygu eich arbenigedd ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau gwaith a’ch ymrwymiadau eraill. Mae gan y cwrs hwn 2 ddull gyflenwi gwahanol a chaiff ei gynnal yn rhan-amser naill ai fel darpariaeth yn ystod y dydd neu ddarpariaeth gyda’r hwyr.
Ar gyfer y ddarpariaeth yn ystod y dydd, byddwch chi ar y campws bob dydd Llun o 9.00am tan 4.30pm ar gyfer cyflenwi ymarferol a datblygu sgiliau.
Mae 6 awr ychwanegol o ddysgu wedi’u hamserlennu bob dydd Mawrth o 8.30am tan 3.30pm. Caiff y sesiwn hon ei chyflenwi trwy ddull cyfunol hyblyg a all gynnwys addysgu ar-lein byw gan ddefnyddio ystod o dechnolegau cyfathrebu, sesiynau gweithdy, gweithgareddau yn seiliedig ar ddiwydiant, datblygu portffolio a chymorth ar y campws yn ôl yr angen.
Ar gyfer y ddarpariaeth gyda’r hwyr, byddwch chi ar y campws bob dydd Mawrth o 4.00pm tan 9.00pm ar gyfer cyflenwi ymarferol a datblygu sgiliau.
Mae 7.5 awr ychwanegol o ddysgu wedi’u hamserlennu bob dydd Iau o 9.00am tan 4.00pm. Caiff y sesiwn hon ei chyflenwi trwy ddull cyfunol hyblyg a all gynnwys addysgu ar-lein byw gan ddefnyddio ystod o dechnolegau cyfathrebu, sesiynau gweithdy, gweithgareddau yn seiliedig ar ddiwydiant, datblygu portffolio a chymorth ar y campws yn ôl yr angen.