En

City & Guilds Diploma mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Lleiafswm o 4 TGAU gradd D i gynnwys Mathemateg ar Radd C, Saesneg a Gwyddoniaeth gradd D neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys i gynnwys Mathemateg.

Yn gryno

Mae’r cwrs 1 mlynedd hwn yn rhoi dealltwriaeth gychwynnol o Beirianneg Fecanyddol. Bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gychwyn eich gyrfa mewn diwydiant sy’n talu’n dda.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi eisiau gyrfa mewn peirianneg fecanyddol
... Rydych chi eisiau sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol
... Rydych chi eisiau symud ymlaen i gyrsiau mwy datblygedig

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae gan y cwrs gyfuniad o bynciau ymarferol a damcaniaethol. Byddwch yn dysgu drwy ddatrys problemau a mwynhau’r heriau a fydd yn cael eu rhoi i chi drwy gydol y cwrs. Yr unedau yw:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Egwyddorion Mecanyddol
  • Egwyddorion Gweithgynhyrchu
  • Sgiliau Mainc
  • Turnio
  • Hydroleg

Byddwch yn cael eich asesu drwy waith ysgrifenedig ac ymarferol, aseiniadau ac arholiadau diwedd blwyddyn. Byddwch yn ennill:

  • Cymhwyster Peirianneg Fecanyddol Lefel 2
  • Sgiliau datrys problemau a fydd yn eich cefnogi yn eich gyrfa newydd
  • Mathemateg a Saesneg
  • Sgiliau ymarferol

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Lleiafswm o 4 TGAU gradd D i gynnwys Mathemateg ar Radd C, Saesneg a Gwyddoniaeth gradd D neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys i gynnwys Mathemateg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Symud ymlaen i Lefel 3 City and Guilds
  • Cyflogaeth neu brentisiaeth mewn peirianneg fecanyddol gyda chwmnïau arweiniol

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â chyflenwi eich offer ysgrifennu eich hun.

Gweler y wefan am fanylion llawn ynghylch Bagloriaeth Cymru.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2?

NFDI0401AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr