City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Mewnosodiad Trydanol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.
Yn gryno
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sgiliau trydanol a phlymio sylfaenol yn ogystal â’r wybodaeth i’w hategu. Byddwch yn cael goruchwyliaeth wrth i chi gyflawni gweithgareddau ymarferol amrywiol ac ar sail gwybodaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
...hoffech chi gael cyflwyniad i blymio i arwain at addysg bellach
...hoffech chi feithrin sgiliau trydanol
...hoffech chi gwrs sy’n hynod ymarferol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am gyflwyniad i blymio a’r diwydiant trydanol sydd am gyflawni cwrs a fydd yn llwybr i astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ennill sgiliau craidd a gwybodaeth ar hyd y ffordd, ac yn rhoi cyfle i chi fwrw ymlaen i’n cymwysterau plymio neu drydanol Lefel 2 neu 3. Mae’r cymhwyster yn galluogi defnyddwyr i ddatblygu eu:
- Gwybodaeth, sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn gosodiadau trydanol a phlymio
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw'n newid, neu wedi newid, dros amser;
- Deall y masnachau, y rolau a’r gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Dealltwriaeth o gylch bywyd adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ynghlwm wrth bob cam;
- Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o’r technolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o ran sut mae’r rhain yn berthnasol i, ac yn bwysig yn, y gweithle a’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o, a’r gallu i, gymhwyso’r egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch lles a’r amgylchedd;
- Cyflawnir y cwrs drwy sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy ardderchog a gwersi theori er mwyn ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein.
Unwaith y byddwch wedi gorffen, byddwch wedi cyflawni:
- Lefel 2 Sylfaen mewn Gosodiadau Trydanol
- Cymwysterau cefnogi priodol i wella eich sgiliau a bodloni anghenion y diwydiantGweithgareddau Sgiliau
- Cymwysterau Mathemateg a Saesneg (os heb gyflawni o leiaf C)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Astudio ar gymhwyster Lefel 2, symud ymlaen yn eich masnach ddewisol, cyflogaeth neu brentisiaeth ar Lefel 3.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0392AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr