En

City & Guilds Diploma mewn Sgiliau Adeiladu (Amlsgiliau) Lefel 1

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn drosolwg rhagorol o’r diwydiant adeiladu sy’n rhoi mewnwelediad i amryw o grefftau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn adeiladu
... Nad ydych yn siwr pa lwybr i’w ddilyn
... Hoffech gael gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn caffael dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o’r amrywiaeth o grefftau yn y diwydiant  adeiladu, wedi’u dethol o blith y canlynol:

  • Gosod Brics
  • Gwaith Coed a Saernïaeth
  • Peintio ac Addurno
  • Trydanol
  • Plymio

Cynhelir sesiynau ymarferol mewn gweithdai â chyfarpar llawn wedi’u cefnogi gan sesiynau damcaniaethol i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol.

Byddwch yn dysgu gwybodaeth a sgiliau adeiladu sylfaenol ac yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol a seiliedig-ar-wybodaeth amrywiol.

Cewch eich asesu drwy brosiectau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig ac ar ôl ei gwblhau byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cymwysterau adeiladu lefel uwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Sgiliau Adeiladu (Amlsgiliau) Lefel 1?

EFDI0393AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr