Yn gryno
O fewn y cwrs hwn, ceir cipolwg trylwyr a dynamig ar y dechnoleg gymhleth, y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sy'n ymwneud a cherbydau modur. Os byddwch yn mynd yn eich blaen i wneud prentisiaeth mewn cerbydau modur, byddwch yn cwblhau'r elfen ddamcaniaethol sydd ei hangen i wneud hynny drwy'r cwrs hwn.
... Rydych eisiau astudio ar lefel gradd ar gyfer gyrfaoedd megis Peiriannydd Modurol.
... Rydych eisiau dod yn dechnegydd diagnostig/uwch dechnegydd medrus.
... Rydych yn gweithio'n galed ac yn datrys problemau'n dda.
...Ydych eisiau cael cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac â diddordeb ysol mewn cerbydau
Byddwch yn astudio'r unedau technoleg cerbydau canlynol fel rhan o'ch astudiaethau:
- Gwaith cynnal a chadw cerbydau arferol
- Technoleg injan cerbydau ysgafn
- General aspects (such as health & Safety)
- Systemau trydanol ac electronig cerbydau
- Technoleg fframiau cerbydau ysgafn
- Archwiliadau cerbydau
- Systemau trawsyriant cerbydau ysgafn
Byddwch yn cael eich asesu drwy dasgau ac arsylwadau profi gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion ar-lein.
Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau (fel rhan o'r Her Tystysgrif Sgiliau)
- Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- HNC Peirianneg Fodurol
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth
- Astudiaeth lefel uwch yn y brifysgol
Er mwyn astudio'r cwrs hwn, byddwch angen lleiafswm o 5 TGAU gradd C, neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Os ydych yn symud ymlaen o gymhwyster Lefel 1, byddwch hefyd angen gradd rhagamser o'ch cwrs blaenorol.
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.