Yn gryno
Mae hwn yn gwrs deinamig a manwl sy’n edrych ar y gwaith crefftus a wneir gan artistiaid colur effeithiau arbennig a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y maes cyffrous hwn.
... Rydych wrth eich bodd â phopeth yn ymwneud â thrin gwallt a harddwch
... Mae gennych ddiddordeb arbennig mewn colur ar gyfer y theatr, teledu a ffilm
... Ydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed
... Rydych chi'n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant ac wedi cwblhau cwrs Colur Theatrig Lefel 2 neu’n meddu ar brofiad cyfatebol yn y diwydiant
Mae artistiaid effeithiau colur arbennig yn gweithio gyda modelau byw neu berfformwyr i’w trawsnewid nhw’n gymeriadau neu greaduriaid (fel arfer at ddibenion sioe neu ddrama fel y disgrifir mewn sgriptiau ffilm a theledu). Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhoi colur a/neu brostheteg ymlaen i gyflawni’r effaith theatrig ddymunol.
Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa lwyddiannus mewn colur theatrig a'r cyfryngau a byddwch yn dysgu am weithio yn y diwydiant. Yn ystod eich amser yn y coleg, bydd cyfleoedd i fynychu profiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu:
- Colur ar gyfer y llwyfan a ffilm
- Colur ffantasi
- Colur cymeriad
- Prostheteg
- Gwallt priodasol a ffantasi
- Lleoliad gwaith (sesiynau ffotograff, ffilmiau byrion a theatr)
- Colur chwistrell baent a chelf corff
- Ffasiwn uchel
- Peintio wyneb a chorff
- Heneiddio ar gyfer y llwyfan a ffilm
- Capiau moel
- Barfau gwallt a mwstashis crêp
- Colur cyfnod
- Effeithiau damwain
- Cuddliw a gwrthdroad rhyw
- Priodasol Asiaidd
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ymarferol ac ar-lein, aseiniadau a phortffolio o waith. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 Colur Theatrig
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu’n uwch arnoch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, a rhaid i chi fod wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur Cyfryngau/Colur Theatrig.
Mae mynediad uniongyrchol at y rhaglen hon yn bosib os oes gennych brofiad blaenorol yn y diwydiant colur.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu cael cyflogaeth yn y diwydiant colur drwy waith teledu, theatr neu lawrydd, neu gallwch fynd ymlaen i astudio cwrs addysg uwch megis ein cwrs HNC/HND mewn Colur Arbenigol ar Gampws Crosskeys. HNC/D in Specialist Make-up at Crosskeys Campus.
Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu’n uwch arnoch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, a rhaid i chi fod wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur Cyfryngau/Colur Theatrig.
Mae mynediad uniongyrchol at y rhaglen hon yn bosib os oes gennych brofiad blaenorol yn y diwydiant colur.
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Dim tyllau corff
- Ni chaniateir gwisgo unrhyw emwaith ac eithrio modrwy briodas yn y salon
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, cost i'w gadarnhau.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.